Annog Cyngor Caerdydd i gefnogi ail gais am Euro 2020
- Cyhoeddwyd
Mae cabinet Cyngor Caerdydd yn cael eu hannog i gymeradwyo cais i gynnal gemau ym mhencampwriaeth Euro 2020.
Roedd y brifddinas yn y ras wreiddiol yn 2014 i gynnal gemau ond roedd eu cais yn aflwyddiannus.
Ond gan fod 'na amheuon am stadiwm newydd ger Brwsel, mae UEFA wedi cychwyn proses i ddod o hyd i stadiwm amgen.
Mae'r corff wedi gofyn i Wembley yn Llundain, Caerdydd a Stockholm i gynnig eto a bydd Cyngor Caerdydd yn trafod y cynlluniau ddydd Iau.
Mae adroddiad i gabinet y cyngor, dolen allanol yn gofyn iddyn nhw gymeradwyo ailgyflwyno'r cais gwreiddiol o 2014 "ar frys".
Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC) wedi dweud yn barod eu bod "wrth eu bodd" eu bod yn cael y cyfle i geisio eto.
'Elwa o £110m'
Fe fydd pwyllgor gweithredol UEFA yn dod i benderfyniad ar 7 Rhagfyr ond mae angen cefnogaeth Cyngor Caerdydd gan y byddai'n rhaid i'r awdurdod gyfrannu at gostau cynnal y gemau pe bai'r cais yn llwyddo.
Fe fyddai'n rhaid i CBDC, Llywodraeth Cymru, Stadiwm Principality, Maes Awyr Caerdydd a Heddlu De Cymru gadarnhau eu bod yn barod i gyfrannu.
Mae Euro 2020 yn cael ei gynnal mewn 13 o ddinasoedd ar draws Ewrop ac mae gan swyddogion yng Ngwlad Belg tan 20 Tachwedd i brofi bod ganddyn nhw'r trwyddedau perthnasol i ddechrau adeiladu'r stadiwm newydd i'r gogledd o Frwsel.
Yn ôl yr adroddiad i'r cyngor, gallai Caerdydd elwa o £110m pe bai'n cael ei dewis yn lle Brwsel - amcangyfrif sydd £40m yn uwch na'r amcangyfrif oedd yn y cais gwreiddiol yn 2014.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Medi 2017
- Cyhoeddwyd19 Medi 2014