Bwlio ar-lein: 'Mae hyn angen newid rŵan'
- Cyhoeddwyd
Mae Meg o Fethesda wedi sefyll i fyny i bobl oedd yn ei bwlio ar-lein, gyda neges ar Twitter sydd wedi cael ei hoffi bron i 100 mil o weithiau, a'i ail-drydar gan filoedd o bobl ledled y byd.
Ei neges i'r bwlis yw fod eu hymddygiad yn dweud mwy amdanyn nhw nag y mae o amdani hi.
"'Nath y bwlio ar-lein ddechrau ym mis Awst," eglurodd. "O'dd pobl yn deud wrtha i bo' fi'n hyll, bo' fi'n dew, ddyliwn i stopio bwyta.
"O'dd confidence fi jest 'di mynd i gyd a 'swn i jest yn edrych yn y mirror a jest crio a teimlo mor rybish am fi fy hun.
"Ond wedyn o'n i jest 'di cael llond bol o hwn, so 'nes i roi tweet allan, a sefyll i fyny iddyn nhw.
Cefnogaeth
"O'dd yr ymateb i hwnna yn amazing. Ga'th o 94,000 o likes, ga'th o loads o messages gan bobl rownd y byd yn deud bo' fi 'di helpu nhw efo'u hyder nhw, a deud bo' nhw 'di cael eu bwlio, ac mae tweet ac attitude fi 'di helpu nhw."
Ymhlith rhai o'r bobl a ymatebodd i neges Meg mae'r hyfforddwr ymarfer corff, Mr Motivator, a'r sêr Hollywood, Patricia Arquette a Morgan Fairchild.
"Mae o 'di helpu fi lot hefyd i wybod bo' fi'n helpu pobl, a dwi 'di 'neud llwyth o ffrindiau allan o hyn i gyd.
"Be' dwi isho 'neud ydi mynd rownd ysgolion a workplaces a jest cael sgwrs am yr effaith mae bwlio yn gallu cael ar mental health rhywun, achos mae o yn gallu bod yn fatal, ac mae hwn angen newid - mae hwn angen newid rŵan."
Hefyd o ddiddordeb: