'Chwyldro' yn y brifysgol ers y pandemig

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Evan Jacob
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Evan Jacob ei fod e a nifer o'i gyfoedion wedi poeni am ymgeisio am brifysgolion eleni yn sgil y pandemig

Mae mwyafrif myfyrwyr prifysgolion Cymru yn parhau i ddysgu ar-lein, wrth i ddisgyblion chweched dosbarth ystyried beth fydd profiad prifysgol yn y dyfodol.

Mae Evan Jacob, 18 oed, o Dredegar yn ddisgybl safon uwch yn Ysgol Gyfun Gwynllyw.

Mae'n gobeithio mynd i Brifysgol Caerdydd fis Medi i astudio biocemeg.

Dywedodd Evan ei fod e a nifer o'i gyfoedion wedi poeni am ymgeisio am brifysgolion eleni yn sgil y pandemig.

Am gyfnod roedd Evan yn ystyried gohirio'r broses ond fe benderfynodd fwrw mlaen gyda'i gais gan nad oedd yn meddwl y byddai'r profiad mor wahanol yn y pen draw.

Ychwanegodd ei fod yn "eitha mwynhau" cael gwersi ar-lein ar y foment gan ei fod yn trefnu ei amser yn well yn y tŷ.

Ond byddai'n well ganddo gael gwersi wyneb yn wyneb ar ôl cyrraedd y brifysgol.

"Dwi am wneud gradd biocemeg felly ma lot o waith ymarferol, bydd rhaid i fi fod mewn lab gyda athro wyneb yn wyneb," meddai.

"Felly ym mis Medi dwi'n gobeithio bydd popeth - wel byddwn ni'n gallu bod wyneb yn wyneb erbyn hynny."

Dywedodd ei fod yn obeithiol y byddai'r profiad o gymdeithasu'n y brifysgol yn gwella gyda mwy o bobl yn cael eu brechu.

'Addysg tymor cyntaf yn well'

Mae Sion Lloyd Edwards, 18, o Ruthun a Lowri Bebb, 19 o Gaernarfon yn eu blwyddyn gyntaf yn astudio Cymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth ac yn byw yn Neuadd Pantycelyn.

Er yn brofiad gwahanol i'r hyn roedd y ddau wedi ei ddisgwyl wrth ymgeisio y llynedd, mae Lowri a Sion wedi mwynhau bod yn y brifysgol hyd yn hyn ac yn dweud eu bod nhw wedi gweithio o amgylch unrhyw rwystrau.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Lowri a Sion wedi mwynhau ym Mhrifysgol Aberystwyth hyd yn hyn

Mae Lowri'n cydymdeimlo gyda'r rhai sy'n teimlo nad ydyn nhw wedi cael gwerth eu harian.

"Dwi'n meddwl yn y tymor cyntaf, oedd o'n well achos o'dden ni'n cael hanner a hanner - wyneb yn wyneb.

"Ond dwi ddim yn meddwl bod modd cymharu'r addysg 'da ni wedi cael tymor yma gyda'r tymor cynt achos ma' bob dim ar y we, mae'n lot anoddach cael cysylltiad gyda'r darlithwyr yn enwedig i ni y flwyddyn gyntaf - ma gennon ni ddarlithwyr tymor yma 'dan ni heb gyfarfod o gwbl," meddai.

Yn ol Sion mae'r defnydd o dechnoleg ac elfennau o ddysgu o bell drwy systemau Zoom a Teams yn ystod cyfnod y pandemig wedi bod o fudd ac mae'n credu bod modd eu datblygu'n ehangach.

"Mae'n beth da edrych i'r dyfodol, fel ma' technoleg yn newid, fel ma bywyd yn newid a ma' pawb yn dod i arfer â defnyddio'r cyfleusterau ar-lein," meddai.

"Hwyrach os yw rhywun methu bod yn rhywle ar un diwrnod, base rhywun yn dal yn gallu gwneud y gwaith o bell."

'Dyfodol bregus i rai prifysgolion wedi Covid'

Dywedodd yr Athro Dylan Jones Evans o Brifysgol De Cymru bod na "chwyldro" wedi bod trwy brifysgolion Cymru, Prydain a'r byd o ganlyniad i'r pandemig.

Gyda mwy o ddarpariaeth digidol yn debygol o bara ar ôl i'r argyfwng dawelu, dywedodd bod yna gwestiynau'n codi am y gwasanaeth mae myfyrwyr yn disgwyl yn gyfnewid am dalu ffioedd dysgu.

"Mae myfyrwyr ar y funud yn talu am y profiad i fod ar y campws, am y profiad o fod gyda myfyrwyr eraill ac yn bwysicach am y profiad o gael rhywun yn dysgu nhw yn y dosbarth.

"Os y'ch chi'n symud hynny ar-lein", meddai, "ydyn nhw'n barod i dalu y naw mil mae nhw'n talu rŵan?"

Mae'n rhaid i brifysgolion hefyd ymdopi gyda'r ergyd ariannol o golli arian am lety a gwasanaethau, ac er bod pryderon na fyddai myfyrwyr yn mynd i'r brifysgol o gwbl eleni ddim wedi eu gwireddu, fe allai rhai sefydliadau deimlo effaith llai o fyfyrwyr tramor.

Yn ôl ffigyrau UCAS roedd na gynnydd o tua 2.5% yn nifer y myfyrwyr gafodd eu derbyn ar gyrsiau prifysgolion Cymru yn 2020 o'i gymharu â 2019, ond gostyngiad o 4% yng nghyfanswm y myfyrwyr rhyngwladol - er bod na gynnydd wedi bod yng ngwledydd eraill y Deyrnas Unedig.

Yn ôl y cyn is-ganghellor prifysgol Syr Deian Hopkin, fe fydd cyflwr rhai prifysgolion yn "eitha bregus" o ganlyniad i effaith Covid-19 ond fydd y gwir effaith ddim i'w weld tan ddiwedd y flwyddyn."

"Bydd canfod cydbwysedd rhwng gwasanaeth ar-lein a wyneb yn wyneb i fyfyrwyr yn her," ychwanegodd Syr Deian.

"Un feirniadaeth o'r ffordd o'n ni'n dysgu yn y gorffennol oedd gofyn i bobl droi lan am naw o'r gloch yn y bore i bentyrru i fewn i ddarlithfeydd - dwi'n credu bo ni wedi symud ymhell o hynny a dwi ddim yn gweld ffordd yn ôl," ychwanegodd.

"Dwi'n credu bod pobl wedi gweld budd mewn darparu ar-lein, dwi'n gweld bod myfyrwyr yn gweld hyblygrwydd rhywbeth ar-lein ond mae'n rhaid cael cyfuniad o'r ddau beth," ychwanegodd.