YouTube yn cau cyfrifon sianel Gymreig 'hiliol'
- Cyhoeddwyd
Mae YouTube wedi dileu sianel ar-lein oedd wedi ei chyhuddo o fod yn hiliol ac o ddefnyddio iaith "ffiaidd" ac "annerbyniol", wedi ymchwiliad gan Newyddion S4C.
Cafodd sianel Voice of Wales ei dileu o YouTube ddydd Mawrth.
Dau aelod o blaid UKIP, Dan Morgan a Stan Robinson, sy'n cyflwyno Voice of Wales, ac maen nhw'n honni mai newyddiadurwyr ydyn nhw yn rhoi sylw i straeon mae'r brif ffrwd yn eu hanwybyddu.
Mewn datganiad, maen nhw'n dweud mai "ymdrech faleisus gan drydydd parti i'n tynnu oddi ar yr awyr" yw'r rheswm dros ddileu eu cyfrifon.
Dileu sianel
Ar eu cyfrif Twitter y penwythnos diwethaf, dywedodd Voice of Wales bod eu "prif sianel ddim yn weithredol am wythnos".
Crëwyd cyfrif arall ganddyn nhw a darlledwyd yn fyw o sawl protest dros y Sul.
Yn ddiweddar, mae'r cyflwynwyr wedi darlledu'n fyw o brotestiadau dadleuol yn gwrthwynebu cartrefu ceiswyr lloches mewn cyn-wersyll hyfforddi milwrol yn Sir Benfro, a thu allan i Stadiwm Liberty wrth i chwaraewyr Clwb Pêl-droed Abertawe benlinio i gefnogi mudiad Black Lives Matter.
Maen nhw hefyd wedi cynnal trafodaethau â gwesteion dadleuol, gan gynnwys aelodau'r Proud Boys, mudiad asgell dde eithafol sydd wedi eu gwahardd gan Facebook, Instagram a Twitter.
Yng Nghanada, mae'r Proud Boys yn anghyfreithlon wedi i'r llywodraeth eu clustnodi fel grŵp terfysgol.
Maent hefyd wedi ymddangos mewn sgyrsiau ar-lein gyda Katie Hopkins a Tommy Robinson - ill dau wedi eu gwahardd gan Twitter am dorri rheolau casineb.
Yn ôl y cynghorydd Joshua Beynon, sy'n cynrychioli'r Blaid Lafur ar Gyngor Sir Penfro, mae Voice of Wales wedi bod yn ei boenydio.
Dywedodd wrth Newyddion S4C iddyn nhw ddarlledu a chyhoeddi cyhuddiadau ffug ei fod wedi rhannu fideo anweddus o ferch ysgol dan oed.
Mae BBC Cymru yn deall i ddwsinau o gwynion gael eu gwneud i YouTube am y sianel, gyda defnyddwyr eraill yn cwyno eu bod yn torri canllawiau "cynnwys yn mynegi casineb" a "sylwadau treisgar neu atgas".
Mewn datganiad, dywedodd YouTube: "Rydyn ni wedi rhoi diwedd ar y ddwy sianel [Voice of Wales] am dwyll dan ein telerau i ddefnyddwyr."
Ychwanegon nhw mai eu hawl nhw yw penderfynu rhwystro unrhyw ddefnyddiwr rhag creu cynnwys.
Bydd dim hawl gan Voice of Wales i greu cyfrif arall ar YouTube, ond fe allan nhw ymddangos ar sianeli YouTube eraill.
Bydd unrhyw gynnwys sydd yn cael ei ail-lwytho i'r wefan hefyd yn cael ei ddileu.
Nos Fercher, roedd Voice of Wales yn darlledu unwaith eto - y tro hwn ar lwyfannau Facebook a Twitter.
Mae BBC Cymru yn deall bod y darllediad hwn wedi cael ei gyfeirio at Heddlu Dyfed-Powys am fod dyn sy'n dweud ei fod ar fechnïaeth wedi enwi menyw mae e'n honni sy'n ei gyhuddo o'i stelcian.
Mae BBC Cymru wedi gofyn am ymateb gan Heddlu Dyfed-Powys, Facebook a Twitter.
'Ymrwymo i ddweud y gwir'
Mewn datganiad, dywedodd Voice of Wales: "Mae YouTube wedi dweud yn glir mai cwyn am 'dwyll technolegol' sydd yn gyfrifol am ddileu ein cyfrif a bod y gwyn yn ymwneud â thorri rheolau hawlfraint.
"Mae Voice of Wales yn apelio'r penderfyniad ar hyn o bryd.
"Rydyn ni wedi bod yn bwriadu symud o YouTube ers peth amser i blatfformau rhyddid mynegiant fel GAB, Parler a Telegram.
"Mae Voice of Wales wedi ymrwymo i ddweud y gwir ac i ddatgelu tactegau brwnt cynghorau lleol a'r Senedd, sydd yn cael eu hanwybyddu gan gyfryngau prif ffrwd."
Maent wedi gwrthod honiadau o hiliaeth yn y gorffennol, ac yn dweud eu bod nhw'n croesawu gwleidyddion o bob rhan o'r sbectrwm gwleidyddol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Chwefror 2021