Lle i enaid gael llonydd: Nia Lloyd Jones
- Cyhoeddwyd
Mae'r cyflwynydd a chynhyrchydd gyda BBC Radio Cymru, Nia Lloyd Jones, yn hoffi dychwelyd i le sy'n agos at ei chalon er mwyn cael ychydig o ddihangfa o brysurdeb y byd.
Tasech chi'n digwydd bod yn chwilio amdana i ar brynhawn dydd Sul, y lle gorau i ddod o hyd i mi ydy yng Nghoed Cyrnol ym Mhorthaethwy.
Mi ges i fy magu yn y dref hon, ac er fy mod i bellach yn byw yn Llanfairpwll, mae 'na dynfa fawr yn ôl bob amser i'r lle arbennig yma.
Mae'n agos iawn at Bont Menai - y bont harddaf yn y byd i mi!
Ar ôl dod dros y bont, mae 'na faes parcio ar y chwith, ac yno mae 'na lwybr drwy'r coed.
Wrth gerdded ar hyd y llwybr, dw i bob amser yn edrych ymlaen at YR olygfa - hynny yw honno sy'n cael ei datgelu yn raddol wrth gerdded i lawr yr allt. Dw i wedi ei gweld hi ganwaith, ond dw i'n dal i ryfeddu bob tro.
Yno o fy mlaen mae Eglwys Sant Tysilio, a llwybr yn arwain i'r dde tuag ati, neu i'r chwith ar hyd y rhodfa nôl i gyfeiriad y bont.
Felly - rhaid mynd i gyfeiriad yr eglwys fach yn gyntaf, ac er bod ei drysau ar gau ar hyn o bryd, weithiau mi fyddwn ni'n ddigon lwcus i gael mynd drwy'r hen ddrws pren, ac oedi am funud neu ddau.
Yna cerdded o gwmpas yr ynys, gwylio'r adar gwyllt sydd wedi ymgartrefu ger y Fenai, pasio bedd Cynan cyn troi nôl am y llwybr ar hyd y Fenai.
Dyma Rodfa'r Belgiaid, sydd wedi ei enwi felly ar ôl i ffoaduriaid o Wlad Belg ddod i Borthaethwy yn 1914. Er mwyn diolch am y croeso gawson nhw - fe aethant ati i adeiladu'r rhodfa, ac mae'n diolch yn fawr iddyn nhw.
Ers talwm ro'n i wrth fy modd yn cerdded ar hyd y wal, a fy mhlant innau wedyn yn eu tro - a'r hwyaid a'r elyrch yn ein dilyn yn y gobaith o gael tamaid i'w fwyta.
Yna rownd y gornel at Garreg yr Halen, a daw Pont Menai i'r golwg yn ei gogoniant.
Mae modd cerdded o dan y bont i gyfeiriad y dref, neu ddilyn eich trwyn yn ôl drwy'r coed unwaith eto.
Ymlacio ydy'r bwriad, ac oedi am ychydig, ac i mi dyma'r lle perffaith i wneud hynny.
Boed law neu hindda - mae 'na siawns go dda mai yma fydda i... ond peidiwch â dweud wrth pawb.
Hefyd o ddiddordeb: