Dim achos yn erbyn dau heddwas wedi honiad o ymosodiad rhyw
- Cyhoeddwyd

Y Prif Uwch-arolygydd Mark Warrender (ch) a'r Prif Uwch-arolygydd Marc Budden (dde)
Mae erlynwyr wedi penderfynu na fydd unrhyw gyhuddiadau troseddol yn cael eu dwyn yn erbyn dau swyddog uchel eu statws yn Heddlu Gwent.
Mae'r Prif Uwch-arolygydd Mark Warrender a'r Prif Uwch-arolygydd Marc Budden wedi'u gwahardd ers haf 2019.
Maen nhw wedi bod yn destun ymchwiliad yn dilyn ymosodiad rhyw honedig yng Nghaerdydd ym mis Mehefin y flwyddyn honno.
Cafodd un o'r swyddogion ei atal dros dro oherwydd yr ymosodiad honedig ac roedd y llall yn wynebu honiadau o gamymddwyn.
Cynhaliwyd ymchwiliad gan Heddlu Avon and Somerset a'i gyfarwyddo gan Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC), cyn i dystiolaeth gael ei hanfon at Wasanaeth Erlyn y Goron (CPS) i'w hystyried y llynedd.
'Penderfyniadau teg ac annibynnol'
Dywedodd llefarydd ar ran y CPS: "Yn dilyn atgyfeiriad tystiolaeth gan yr IOPC ynghylch yr ymddygiad honedig ar ddau uwch heddwas, mae'r CPS wedi penderfynu na chyflawnir ein prawf cyfreithiol i'w cyhuddo o unrhyw drosedd.
"Fe wnaethon ni ystyried y drosedd o ymosod yn rhywiol yn erbyn un swyddog a chamymddwyn mewn swydd gyhoeddus ac arfer amhriodol pwerau'r heddlu yn erbyn yr ail swyddog.
"Rôl y CPS yw gwneud penderfyniadau teg ac annibynnol yn seiliedig ar y dystiolaeth sydd ar gael ac mae gan yr achwynydd yr hawl i ofyn am adolygiad o'n penderfyniad o dan gynllun Hawl i Adolygu Dioddefwr y CPS."
Bydd yr IOPC nawr yn trafod achos disgyblu posib gyda Heddlu Gwent.
Gwrthododd Heddlu Gwent wneud sylw ar y mater.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Awst 2019