Pryder a gorfoledd caniatáu ymweliadau cartrefi gofal

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Gwraig oedrannus yn eistedd ar gadair mewn cartref gofalFfynhonnell y llun, SPL
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r gwaharddiad ar ymweliadau cartrefi gofal wedi cael ei feirniadu yn ddiweddar

Dywed dynes sydd â rhiant mewn cartref gofal yng ngogledd Cymru y byddai'n "hwb enfawr" i gael gweld ei gilydd unwaith eto, ar ôl bron i flwyddyn.

Yn ôl Sharon Jones, mae iechyd meddwl ei mam, Edith Davies, sy'n 90 oed ddydd Sul, wedi dioddef, ac mae'n poeni y gallai gael effaith hirdymor arni.

Mae disgwyl i Lywodraeth Cymru ganiatáu ymweliadau dan do mewn cartrefi gofal o 13 Mawrth ymlaen, gydag un ymwelydd penodedig i bob preswylydd.

Mae'r llywodraeth wedi bod yn edrych yn fanwl ar y mater, mewn cydweithrediad ag awdurdodau lleol, Iechyd Cyhoeddus Cymru a chynrychiolwyr cartrefi gofal, meddai'r Dirprwy Weinidog Iechyd, Julie Morgan.

"Rydym yn ei wneud yn ofalus a phwyllog ond rydym yn awyddus i weld ymweliadau dan do yn ailddechrau, achos nid yw llawer o breswylwyr a'u teuluoedd wedi gallu cael unrhyw gysylltiad wyneb-yn-wyneb ers amser hir," meddai.

Mae'r gwaharddiad ar ymweliadau cartrefi gofal wedi dod dan y lach yn ddiweddar.

'Cymaint o hwb iddi'

Eglurodd Sharon Jones, o Langollen, beth fyddai'r cyfle i weld ei mam unwaith eto yn ei olygu i'r ddwy ohonynt.

"Fedra i ddim coelio'r peth i fod yn onest," meddai.

"Dwi'n eithaf emosiynol unwaith eto am y gobaith [o weld ei mam]."

Disgrifiad o’r llun,

Gallai ymweliadau cartrefi gofal ailddechrau o 13 Mawrth, meddai Julie Morgan

Ym mis Awst y gwelodd Ms Davies a'i brawd, eu mam ddiwethaf, ond dydyn nhw ddim wedi cael cyswllt gyda hi ers mis Mawrth 2020 - bron i flwyddyn yn ôl.

"Cyn belled bod un ohonom yn gallu mynd yno, mi fyddai'n gymaint o hwb iddi hi," meddai.

"Dwi'n deall yn iawn beth sy'n cael ei ddweud, a'i bod yn berffaith wir nad yw Covid wedi mynd i ffwrdd. Ond mae'n rhaid i ni ddod yn ôl i ryw fath o normalrwydd.

"Mae iechyd meddwl pobl sydd wedi cael eu gwahanu ers dros 12 mis... mae wedi bod yn galed iawn, a dwi'n meddwl y bydd yn cymryd dipyn o amser i ni gyd ddod drosto.

"Mae fy mam wedi bod yn isel iawn, iawn - yn ddigalon, dryslyd ac yn dweud yn aml y byddai'n well ganddi adael y byd hwn, sy'n rhywbeth anodd iawn, iawn i ddelio â fo ar Facetime.

"Mae'n anodd, a dwi'n meddwl ei fod yn rhywbeth hirhoedlog sy'n mynd i gymryd cryn dipyn i ddelio efo fo."

'Nid yw Covid wedi mynd i ffwrdd'

Dywed Glyn Williams, perchennog cartref preswyl Gwyddfor ym Modedern, Ynys Môn, ei fod yn deall bod y sefyllfa ynglŷn ag ymweliadau teulu wedi achosi problemau anferthol i deuluoedd.

Ond ychwanegodd fod staff cartrefi gofal "wedi dychryn", gyda phryderon y gallai amrywiolyn newydd ymddangos all wrthsefyll y brechlynnau.

"Mae pawb isio gallu agor, rydan ni i gyd isio mynd yn ôl i'r partïon yr oeddan ni'n arfer eu cael... rydan ni wir isio mynd yn ôl i hynny," meddai.

"Mae hwn yn newyddion i'w groesawu gan Lywodraeth Cymru, ond dydy Covid ddim wedi mynd i ffwrdd. Mae'n rhaid gwneud hyn gyda gofal."

Pryder am amrywiolion newydd

Ychwanegodd bod ei staff yn cael profion Covid sawl gwaith yr wythnos, a bod rhain hefyd ar gael i ymwelwyr.

Mae'r cartref wedi buddsoddi mewn unedau ymwelwyr dros dro er mwyn caniatáu ymweliadau mwy diogel.

"Y drwg efo hynny ydy, os yw ymwelydd yn cael prawf positif a'i fod wedi bod i mewn yn y cartref, yna mae'n rhaid cau'r cartref eto am 20 diwrnod - sy'n golygu bod y preswylwyr yn gorfod aros yn eu stafelloedd am 20 diwrnod arall," meddai.

"Mae 'na amrywiolion newydd yn dod i'r amlwg, a'r pryder mwyaf ydy amrywiolyn nad ydan ni wedi'i weld eto.

"Os cawn ni amrywiolyn newydd yn dod i'r cartref, sy'n gallu gwrthsefyll y brechlyn, yna rydan ni mewn lle ofnadwy unwaith eto."