Galw am ganolfannau rhagoriaeth i drin y cyflwr lwpws
- Cyhoeddwyd

Mae bod yn yr haul yn gallu bod yn anodd i bobl sydd â chyflwr lwpws
Mae yna alwadau am gael canolfannau rhagoriaeth i drin y cyflwr lwpws yng ngogledd a de Cymru er mwyn rhoi cymorth a sicrhau bod modd cael diagnosis yn gynt.
Mae lwpws yn gyflwr hirdymor sy'n effeithio ar imiwnedd y corff. Nid oes modd gwella ohono ac mae'n gallu achosi poenau yn y cyhyrau, brech ar y croen a blinder.
Gall hi gymryd chwe blynedd i gael diagnosis, ac amcangyfrifir bod oddeutu 2,000 o bobl yn byw gyda'r cyflwr yng Nghymru.
Dywed prif weithredwr elusen Lupus UK, Paul Howard, nad oes gan feddygon teulu nac ymgynghorwyr rhewmatoleg ddigon o brofiad i'w drin ac yn aml fod yn rhaid cael gofal arbenigol.
Mae'n galw am fuddsoddiad mewn gwasanaethau - ond tan hynny mae'n galw am i gleifion o Gymru gael triniaeth yng nghanolfannau rhagoriaeth Lloegr.
Dywed llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru ei bod yn cydnabod effaith lwpws ar iechyd a bywydau pobl a'i bod hi'n bosib i fyrddau iechyd gyfeirio pobl am driniaeth bellach os nag oes cymorth ar gael yn lleol.

Amcangyfrifir bod y cyflwr lwpws yn effeithio ar un o bob 1,000 o bobl yn y DU gan gynnwys Wendy Diment
Dywed Wendy Diment ei bod hi'n cael cur pen cyson a bod y blinder llethol yn aml yn golygu na all hi godi o'r gwely.
"Weithiau dwi methu newid o fy mhyjamas. Ar ôl cael cawod mae'n rhaid i fi fynd i orwedd - mae'n gyflwr mor rhwystredig," meddai Wendy, sy'n 46 oed ac yn dod o Ddinbych-y-pysgod.
Mae hi wedi gorfod gadael ei gyrfa ym myd y gyfraith a bellach wedi cael swydd rhan amser fel cynorthwyydd dysgu.
Fe gymerodd hi bedair blynedd iddi gael diagnosis.
"Doeddwn i ddim yn dda yn 2013 - roedd gen i frech ar fy mrest, traed ac wyneb ac wedi i steroid glirio'r frech 'nes i anghofio am y peth," meddai.
"Ond yn hwyrach y flwyddyn honno a minnau yn dioddef o flinder difrifol - dyma fy ngŵr yn gweld rhaglen deledu am y cyflwr - dyma'r tro cyntaf i mi glywed amdano."
15 tabled y dydd
Ond chafodd Wendy ddim diagnosis tan bedair blynedd wedi hynny a bu'n rhaid iddi dalu am fynd i weld arbenigwr yn Lloegr.
"Mae 90% o gleifion yn ferched ac yn aml," medd Wendy. "Mae'n cael ei drin fel afiechyd meddwl neu mae pobl yn credu mai 'dim ond merched yn dweud eu bod wedi blino yw e a dim mwy'."
Mae Wendy bellach yn cymryd 15 tabled y dydd ac yn gallu canolbwyntio ar hanfodion fel paratoi bwyd i'r plant a chynnal grŵp cefnogaeth i gleifion eraill.
Dywed y byddai'n hoffi gweld dwy ganolfan rhagoriaeth yng Nghymru - y naill yn y gogledd a'r llall yn y de.
Byddai canolfannau o'r fath yn cyflogi arbenigwyr, ymchwilwyr a nyrsys i roi cyngor ar batrwm byw.

Dywed Melanie Sloan, ymchwilydd yn y maes, nad yw cleifion o Gymru yn teimlo eu bod yn cael yr un gefnogaeth
Mae Melanie Sloan o Brifysgol Caergrawnt yn byw gyda'r cyflwr a hefyd wedi bod yn ymchwilio i agweddau cleifion.
O'r 111 a wnaeth ymateb, dywedodd 43% o gleifion Cymru bod eu cais i weld arbenigwr wedi'i wrthod - 21% oedd y ganran yng ngweddill y DU.
Dywed mudiad Triniaeth Deg i Ferched Cymru bod yna ddiffyg ymwybyddiaeth o "effaith anferth" y cyflwr a bod dim digon o arian yn cael ei fuddsoddi mewn gwasanaethau arbenigol.
Dywedodd Paul Davies AS, sy'n cynrychioli Ms Diment yn y Senedd: "Mae angen gwell cefnogaeth ar bobl sy'n byw â'r cyflwr lwpws ac rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i sefydlu canolfannau rhagoriaeth yng Nghymru fel bod pobl yma yn cael yr un gefnogaeth â chleifion yn Lloegr."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Fe fyddwn yn ymgynghori ar gyflyrau cyhyrysgerbydol, gan gynnwys lwpws.
"Byddwn yn gweithio gyda sefydliadau perthnasol, gan gynnwys Lupus UK a Cymru Versus Arthritis i wella triniaeth i bobl."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Ionawr 2020
- Cyhoeddwyd22 Mehefin 2017