Dod i hyd i rafft achub cwch pysgotwyr coll
- Cyhoeddwyd

Methodd y Nicola Faith â dychwelyd i harbwr Conwy ar 27 Ionawr
Mae rafft achub cwch pysgota a ddiflannodd oddi ar arfordir gogledd Cymru ym mis Ionawr wedi dod i'r fei oddi ar arfordir de'r Alban.
Methodd y Nicola Faith â dychwelyd i harbwr Conwy ar 27 Ionawr, ac mae tri physgotwr o'r ardal yn parhau ar goll.
Cafwyd hyd i'r rafft oddi ar arfordir Kirkcudbrightshire gan wasanaeth Gwylwyr y Glannau.
Mae teuluoedd y pysgotwyr - Ross Ballantine, 39, Alan Minard, 20, a Carl McGrath, 34 - wedi cael gwybod.

Mae Alan Minard, Ross Ballantine a Carl McGrath yn dal ar goll
Mae'r Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Morol (MAIB) wedi cadarnhau bod y rafft yn perthyn i'r Nicola Faith, a bydd yn cael ei chludo i Southampton am ragor o ymchwiliadau a dadansoddiadau.
Mae'r chwilio am y cwch ei hun hefyd yn parhau, dan arweiniad MAIB, sy'n cydweithio ag arbenigwyr chwilio tanddwr i archwilio ardal eang, yn cynnwys y mannau ble roedd y Nicola Faith yn arfer gweithredu.
Dywedodd chwaer Mr Ballantine, Lowri Taylor eu bod wedi cael gwybod nad oedd unrhyw offer ar y rafft achub wedi cael ei ddefnyddio.
"Mae hynny'n ateb un cwestiwn - rydyn ni'n gwybod nad oedden nhw ar y rafft achub allan ar y môr am ddyddiau yn ceisio cael help," meddai.

Daeth y rafft achub i'r fei oddi ar arfordir de'r Alban
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd29 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd28 Ionawr 2021