Teuluoedd pysgotwyr coll yn diolch i'r gymuned leol

  • Cyhoeddwyd
The Nicola Faith fishing boat moored at the quayside in Conwy
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r pysgotwyr a'r cwch wedi bod ar goll ers 27 Ionawr

Dywed teuluoedd y pysgotwyr a ddiflannodd oddi ar arfordir gogledd Cymru ym mis Ionawr bod cefnogaeth y gymuned leol yn help mawr iddyn nhw wrth iddyn nhw geisio ymdopi â'u colled.

Dros y penwythnos mae'r gymuned leol wedi bod yn cynnal mwy o weithgareddau er mwyn codi arian i gronfa a fydd yn talu'n rhannol am logi arbenigwyr ychwanegol i chwilio am y pysgotwyr a'r cwch.

Ddydd Gwener fe ddaeth rafft achub cwch pysgota y Nicola Faith i'r fei oddi ar arfordir de'r Alban.

Mewn cyfweliad gyda BBC Cymru dywed mam Alan Minard, un o'r pysgotwyr, bod ei phlant yn gofyn o hyd pryd mae plismyn yn dod 'nôl â'i gorff a bod y chwaer ieuengaf yn gofyn a oes modd ceisio ei ffonio.

20 oed oedd Alan - yn iau na gweddill y criw ond "roedd e wastad yn teimlo mai fe oedd y brawd mawr," meddai Nathania Minard.

Mae ei chwaer hynaf, Poppy, yn 16, Jessica yn chwech oed a'i frawd bach Percy yn ddwy oed.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Alan Minard a'i deulu

Mae Nathania Minard a'i gwraig Rebekah wedi ymuno â theuluoedd Ross Ballantine, 39, a Carl McGrath, 34, i sefydlu tudalen codi arian, rhannu cefnogaeth a gwybodaeth.

Dymuniad y teuluoedd yw llogi pobl sydd ag arbenigedd chwilio mewn dŵr dwfn.

Fe fyddai hynny yn ychwanegol i'r ymchwiliad swyddogol sy'n cael ei gynnal ar hyn o bryd gan y gangen sy'n ymchwilio i ddamweiniau morol.

Mewn llai nag wythnos mae'r apêl wedi codi £27,000. Dywed y teuluoedd bod y swm yn anhygoel o uchel ond maen nhw angen mwy o arian.

Ffynhonnell y llun, Lluniau teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae Alan Minard, Ross Ballantine a Carl McGrath yn dal ar goll

Dywedodd Nathania Minard: "Mae pob ceiniog o gymorth mawr i ni ar hyn o bryd.

"Mae yna gymaint o gariad tuag at yr hogiau - mae'n dangos cymaint mae pobl yn poeni ac nad ydy'r digwyddiad wedi mynd yn angof.

"Maen nhw'n haeddu gwell nag i'r achos fod ar agor am flynyddoedd. Allwn ni ddim caniatáu hynny.

"Roedd holl ddyfodol Alan o'i flaen. Roedd e'n beiriannydd naturiol."

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Alan Minard, 20 oed, oedd y pysgotwr ieuengaf ar y cwch

Ychwanegodd: "Mae Alan yn un o'r bobl yna fyddai wastad yn cael gwaith.

"Roedd wedi cael prentisiaeth i fod yn beiriannydd ar y môr yn Nyfnaint ac wedi i'r gwaith stopio oherwydd y pandemig daeth i ogledd Cymru a chael gwaith ar fwrdd y Nicola Faith.

"Roedd yn un a oedd yn gwneud pethau i ddigwydd. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf roedd wedi tyfu o fod yn fachgen i fod yn ddyn. Roeddwn i mor falch ohono.

"Roedd yn cyd-dynnu yn dda gyda Carl McGrath. Dwi'n meddwl bod Carl yn gwerthfawrogi Alan gan ei fod yn weithiwr mor galed. Mae'n anodd credu mai dim ond pythefnos roedd Alan wedi bod gyda'r criw."

'Mis echrydus'

Roedd Ross Ballantine hefyd yn gymharol newydd i'r criw - fe gafodd waith ar y Nicola Faith wedi i'w waith fel gosodwr carpedi arafu yn ystod y pandemig.

Dywed ei chwaer Lowri Taylor fod Ross yn dad ymroddgar a'i fod wrth ei fodd yn gweithio ar y cwch pysgota er bod y gwaith yn gallu bod yn anodd.

"Roedd y gwaith yn golygu y gallai weld ei ddau fachgen yn amlach - roedd e'n gallu aros yn lleol a ddim yn gorfod bod o adref gydol yr wythnos," meddai.

Mae mam y bechgyn Zoey Walker, sy'n rhedeg parlwr harddwch yn Llandudno hefyd yn codi arian fel bod y teuluoedd yn gallu talu pobl arbenigol i chwilio ymhellach.

Dywedodd: "Mae fy mechgyn yn teimlo ein bod yn gwneud rhywbeth wedi'r mis echrydus ry'n wedi'i gael."

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Lowri Taylor bod y teuluoedd angen atebion

Yn ystod y penwythnos mae un o sêr YouTube, Tom Stockdale, yn bwriadu eillio ei ben i godi arian.

Mae cefnogwr lleol arall yn rhedeg o amgylch Penygogarth yn Llandudno a nifer eraill yn trefnu raffl.

Dywed perchnogion cychod eraill bod Carl McGrath wedi dod â bywyd newydd i'r diwydiant pysgota yng Nghonwy a'i fod wedi treulio amser mawr yn uwchraddio cwch y Nicola Faith.

Ychwanegodd Nathania Minard: "Rydyn wedi'n syfrdanu gan gymaint y gefnogaeth - yn lleol a thu hwnt.

"'Dan ni ddim yn ildio, 'dan ni angen gwybod lle maen nhw a 'dan ni angen gwybod beth ddigwyddodd.

"'Dan ni angen atebion erbyn i'n plant dyfu - dwi ddim eisiau i flynyddoedd basio a ninnau ddim yn gwybod beth ddigwyddodd."

Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth David Mearns ddod o hyd i weddillion yr awyren yr oedd Emiliano Sala yn teithio ynddi

David Mearns sy'n cynghori'r teulu ar gynnal ymchwiliad preifat.

Mr Mearns ddaeth o hyd i weddillion yr awyren a oedd yn cludo'r pêl-droediwr Emiliano Sala yn 2019.

Dywed ei fod yn ffyddiog y bydd modd dod o hyd i gwch y Nicola Faith.

Yn y cyfamser dywed y teuluoedd y bydd y gangen sy'n ymchwilio i ddamweiniau morol yn cynnal mwy o arolygon sonar dros y penwythnos.

Pynciau cysylltiedig