Heddlu'n cyhoeddi enw merch 16 oed fu farw yn Ynys-wen

  • Cyhoeddwyd
Wenjing XuFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd teulu Wenjing Xu ei bod yn "berson tawel iawn"

Mae Heddlu De Cymru wedi cyhoeddi enw merch 16 oed fu farw mewn digwyddiad yn Rhondda Cynon Taf ddydd Gwener.

Dywedodd y llu eu bod yn trin marwolaeth Wenjing Xu fel achos o lofruddiaeth.

Fe wnaeth Heddlu De Cymru gau Stryd Baglan yn ardal Ynys-wen, Treorci, brynhawn Gwener yn dilyn adroddiadau bod person wedi'i drywanu.

Dywedodd yr heddlu bod dyn 31 oed yng ngofal yr heddlu ôl cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth, a bod dyn arall 38 oed hefyd yn eu gofal mewn cysylltiad â'r digwyddiad.

Mae'r ddau yn cael eu trin yn yr ysbyty ar ôl iddyn nhw ddioddef anafiadau difrifol yn y digwyddiad.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r heddlu wedi annog y cyhoedd i beidio â dyfalu a rhannu straeon am yr hyn ddigwyddodd

Mewn teyrnged iddi, dywedodd teulu Wenjing Xu ei bod yn "berson tawel iawn".

"Roedd Wenjing yn helpu'r teulu cyfan, ac yn gweithio ym mwyty tecawê y teulu," meddai'r datganiad.

"Roedd hi'n mwynhau'r ysgol ac yn gweithio'n galed iawn. Roedd ei theulu'n ei charu'n fawr iawn."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd yr Arolygydd Rich Jones o Heddlu'r De y byddai'r llu yn parhau ar y safle dros y penwythnos

Mae'r heddlu wedi annog y cyhoedd i beidio â dyfalu a rhannu straeon am yr hyn ddigwyddodd.

Ychwanegodd y llu bod y rheiny oedd yn rhan o'r digwyddiad yn adnabod ei gilydd ac nad ydyn nhw'n chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r digwyddiad.

Cafodd ardal y tu allan i dŷ bwyta Chineaidd y Blue Sky ei chau i'r cyhoedd ddydd Gwener, ac fe gafodd pabell fach wen ei gosod y tu allan.

Dywedodd yr Arolygydd Rich Jones o Heddlu'r De y byddai'r llu yn parhau ar y safle dros y penwythnos wrth i'w hymchwiliadau barhau.

Pynciau cysylltiedig