Tad yn rhoi teyrnged i filwr fu farw yn Sir Benfro
- Cyhoeddwyd
Mae tad milwr fu farw yn ystod ymarferiad tanio byw yn Sir Benfro wedi rhoi teyrnged i'w fab ar gyfryngau cymdeithasol.
Cafodd Gavin Hillier - Sarjant gyda'r Gwarchodlu Cymreig - ei ladd yn y digwyddiad ar faes ymarfer Castellmartin am tua 22:45 nos Iau.
Dywedodd tad Sarjant Hillier ar Facebook ei fod yn "torri fy nghalon" a bod ei fab wedi marw yn "gwneud y swydd roedd yn ei garu".
"Gorffwys mewn hedd fy mab - rydw i mor falch ohonot ti," meddai.
Dywedodd y Weinyddiaeth Amddiffyn eu bod yn "meddwl am ei deulu a'i ffrindiau yn y cyfnod trasig yma".
"Mae ymchwiliad wedi dechrau ac fe fyddai'n amhriodol i wneud sylw pellach ar y funud," meddai llefarydd.
Mae'r heddlu, yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) a'r gangen sy'n ymchwilio i ddamweiniau ym maes amddiffyn wedi lansio ymchwiliad i'r digwyddiad.
Roedd Sarjant Hillier wedi derbyn medal gan Dywysog Cymru yn 2019 am ei wasanaeth hir i'r Gwarchodlu Cymreig.
Dyma'r diweddaraf mewn cyfres o ddamweiniau ar faes ymarfer Castellmartin.
Cafodd dau aelod o Gatrawd Brenhinol y Tanciau - Matthew Hatfield a Darren Neilson - eu lladd mewn ffrwydrad yn 2017.
Yn 2012, lladdwyd milwr o'r enw Michael Maguire yn ddamweiniol yn ystod ymarferiad tanio byw ar y maes ymarfer yn ne Sir Benfro.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Mawrth 2021