Ailagor rheilffordd chwe mis wedi tân Llangennech
- Cyhoeddwyd
Mae rheilffordd wedi ailagor chwe mis ar ôl i drên ddod oddi ar y cledrau a gollwng 330,000 litr o danwydd, gan arwain at dân enfawr.
Bu'n rhaid cau ochr ddeheuol Rheilffordd Calon Cymru yn dilyn y digwyddiad yn Llangennech, Sir Gâr ym mis Awst 2020.
Dywedodd Network Rail bod 37,500 o oriau gwaith wedi'u treulio i adfer y rheilffordd ac amddiffyn yr amgylchedd wedi'r digwyddiad.
Mae gwasanaethau wedi ailddechrau ar y rheilffordd ddydd Llun.
Symud 30,000 tunnell o bridd llygredig
Yn ôl Network Rail mae 30,000 tunnell o bridd llygredig wedi cael ei gloddio o ardal 150 metr o hyd, 20 metr o led a dau fetr o ddyfnder oedd o amgylch y digwyddiad.
Dywedodd bod deunydd newydd wedi cael ei osod yno o chwareli yn Sir Gâr a Sir Benfro, a bod y pridd llygredig wedi'i gymryd i safle arbenigol sy'n delio â gwastraff o'r fath.
Mae dros 500 metr o drac newydd wedi'i osod hefyd, a bu'n rhaid cael rhai arwyddion newydd hefyd wedi i'r hen rai gael eu difrodi yn y tân.
Dywedodd Bill Kelly o Network Rail mai dyma un o'r ymgyrchoedd amgylcheddol mwyaf i'r cwmni fod yn rhan ohoni.
"Diolch i'n timau rheng flaen ac asiantaethau eraill, roedd modd atal y tanwydd rhag lledaenu ymhellach, gan osgoi'r hyn fyddai wedi bod yn drychineb llwyr yn amgylcheddol," meddai.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Medi 2020
- Cyhoeddwyd2 Medi 2020
- Cyhoeddwyd27 Awst 2020