'Ddim yn ddiogel' i bob disgybl i ddychwelyd i'r ysgol

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
ysgolFfynhonnell y llun, Jane Barlow
Disgrifiad o’r llun,

Mae rhai plant cynradd wedi dychwelyd i'r ysgol yr wythnos hon

Byddai ailagor ysgolion Cymru ar gyfer pob blwyddyn ysgol ar yr un pryd "ddim yn ddiogel" yn ôl y prif weinidog.

Roedd Mark Drakeford yn amddiffyn polisi ei lywodraeth o adael i ddisgyblion ddychwelyd yn raddol yn wyneb beirniadaeth gan y Ceidwadwyr Cymreig.

Fe fydd holl ddisgyblion Lloegr yn dychwelyd ar 8 Mawrth, ond yng Nghymru bydd yn rhaid i rai disgyblion uwchradd aros tan ar ôl gwyliau'r Pasg.

Dywedodd Mr Drakeford mai ysgolion oedd blaenoriaeth ei lywodraeth ond eu bod yn dilyn cyngor gwyddonol wrth wneud penderfyniadau.

Yng Nghymru, fe wnaeth plant Cyfnod Sylfaen, sef plant rhwng tair a saith oed, ddychwelyd i'r ysgol yr wythnos hon, gyda gweddill disgyblion cynradd a disgyblion uwchradd hŷn yn dychwelyd ar 15 Mawrth.

Mae'r gweinidog addysg Kirsty Williams wedi dweud y byddai'n well ganddi weld disgyblion ym mlynyddoedd saith a naw yn dychwelyd ar ôl gwyliau'r Pasg. Mae tymor yr haf yn dechrau ar 12 Ebrill.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Mark Drakeford ei fod yn dilyn cyngor gwyddonol

Eisoes mae Mr Drakeford wedi awgrymu y gallai busnesau sy'n cynnig llety hunan-ddarpariaeth ailagor ar gyfer y Pasg, ac y gallai siopau nad sy'n gwerthu nwyddau angenrheidiol ailagor ar 15 Mawrth.

Yn y Senedd gofynnodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies: "Sut allwn ganiatáu ...yn ystod mis Mawrth i blant ysgol barhau allan o'r ysgol tra'n agor rhannau o'r economi drwy godi cyfyngiadau?"

Dywedodd Mr Drakeford: "Bydd myfyrwyr yn dychwelyd i'r ysgolion mor gyflym ag y mae hi'n ddiogel i wneud hynny.

"Y cyngor rydym wedi ei dderbyn yw na fyddai'n ddiogel i wneud beth mae e'n awgrymu.

"Nawr pe bai o'n bolisi y Ceidwadwyr yng Nghymru i ddychwelyd plant dan amodau nad sy'n ddiogel iddynt hwy nag i staff, yna gadewch iddo ddweud hynny.

"Bydd y llywodraeth ddim yn gwneud hynny. Byddwn yn dilyn y wyddoniaeth dim bwys beth sy'n digwydd mewn llefydd eraill.

"Y cyngor gwyddonol yw bod yn rhaid dychwelyd plant mewn grwpiau, gyda seibiant rhwng bob grŵp," meddai.

Mae gwyddonwyr llywodraeth y DU wedi dweud y bydd ailagor ysgolion yn codi lefel Rhif R, sef cyfradd heintio coronafeirws.