Cannoedd o athrawon ychwanegol newydd wedi'r cyfnod clo

  • Cyhoeddwyd
plant yn y dosbarthFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cyllid ar gyfer 900 o staff addysgu ychwanegol i helpu disgyblion ar ôl colli mwy na thymor o'u hastudiaethau.

Bydd y pecyn cymorth £29m yn targedu disgyblion difreintiedig a phlant sy'n sefyll arholiadau, meddai'r llywodraeth.

Mae'r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams wedi bod o dan bwysau i egluro a fydd disgyblion yn dychwelyd yn llawn amser yn nhymor yr Hydref.

Bydd y gweinidog yn cyhoeddi ei chynlluniau ar gyfer agor ysgolion ym mis Medi yn ddiweddarach ddydd Iau.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Kirsty Williams mai ei nod oedd sicrhau'r lefel uchaf posib o gyswllt wyneb yn wyneb rhwng disgyblion ac athrawon

Dywedodd Llywodraeth Cymru y bydd y cyllid ar gyfer y flwyddyn ysgol 2020-21 yn talu am gytundeb blwyddyn 600 o athrawon a 300 o gynorthwywyr dysgu.

Ychwanegodd mai athrawon oedd newydd gymhwyso ac athrawon cyflenwi fyddai'n llenwi mwyafrif y swyddi.

Mae'r cyhoeddiad wedi cael croeso ymhlith athrawon, ond wedi'r cyhoeddiad dridiau nôl nad oedd y llywodraeth wedi cyrraedd targed o ddenu digon at y proffesiwn, mae 'na bryder am y gallu i ddiwallu'r anghenion.

"Dwi ddim ishe taflu dwr oer ar hwn, ond (dwi'n) cytuno," medd Trystan Edwards Pennaeth Ysgol Garth Olwg ger Pontypridd, "Dim ond rhai dyddiau yn ôl fe gawson ni wybod ein bod ni wedi methu a chyrraedd y targed o ran recriwtio i gyrsiau TAR o rhyw 600 ac mae'n eironig bod y ffigyrau yma'n cyfateb.

Wrth gael ei holi ar raglen y Post Cyntaf ar BBC Radio Cymru bore 'ma dywedodd Mr Edwards fod sicrhau gweithlu o safon yn mynd i fod yn her, "Mae recriwtio yn mynd i fod yn her, a sicrhau bod yr arbenigedd pynciau gyda ni yn y blynyddoedd allweddol.

"Fodd bynnag 'y ni wedi dangos yn y sector addysg ein bod ni'n gallu addasu, ac addasu yn gyflym, a dwi'n siwr newn ni hynny ar draws Cymru ym mis Medi."

Canolbwyntio ar addysg disgyblion hyn

Bydd y gefnogaeth yn canolbwyntio ar flynyddoedd 11, 12 a 13 mewn ysgolion uwchradd sy'n paratoi ar gyfer arholiadau, yn ogystal â disgyblion o bob oed sy'n derbyn prydau ysgol am ddim, plant sydd ag anghenion dysgu ychwanegol neu sy'n fregus.

Mae yna addewid o adnoddau dysgu i helpu athrawon cyfredol a newydd i ddarparu'r gefnogaeth i ddisgyblion sy'n sefyll arholiadau.

Fe allai'r gefnogaeth gynnwys rhaglenni dysgu personol a gwersi ychwanegol.

Bydd ystod o ddulliau addysgu yn cael eu defnyddio, gan gynnwys dysgu cyfunol, meddai'r llywodraeth.

Dywedodd y byddai'r manylion ynglŷn â sut y byddai'r arian yn cael ei rannu rhwng ysgolion yn cael eu cyhoeddi'n ddiweddarach.

Dywedodd Kirsty Williams ei bod yn cefnogi ysgolion yn ystod y "cyfnod adfer" gan barhau i godi safonau.

"Bydd y buddsoddiad ychwanegol hwn a'r cymorth wedi'i dargedu'n sicrhau bod yr amser i ffwrdd o'r ysgol dros y misoedd diwethaf yn cael cyn lleied o effaith â phosibl," meddai.

"Nid yw hyn yn ateb tymor byr. Bydd yr arian hwn, y staff ychwanegol a'r cymorth ar gael ar gyfer y flwyddyn nesaf i gyd.

"Ochr yn ochr â'r cwricwlwm newydd, rydym yn symud gyda phwrpas i gyfnod newydd ar gyfer addysg. Cyfnod lle mae pob dysgwr yn elwa ar addysg eang a chytbwys."

Dychwelyd yn llawn amser?

Daw'r cyhoeddiad wrth i'r gweinidog baratoi i gyhoeddi ei chynlluniau i ysgolion ym mis Medi.

Dywedodd wrth un o bwyllgorau'r Senedd ddydd Mawrth mai ei nod oedd sicrhau'r lefel uchaf posib o gyswllt wyneb yn wyneb rhwng disgyblion ac athrawon mewn ysgolion.

Mae'n arwydd y gallai Ms Williams fabwysiadu cynlluniau tebyg i'r rhai mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Gyfunol sy'n bwriadu gofyn i ddisgyblion ddychwelyd yn llawn amser ar ôl yr haf.

Hyd yn hyn mae'r llywodraeth wedi dweud y bydd dysgu cyfunol - cymysgedd o ddysgu gartref ac addysgu wyneb yn wyneb cyfyngedig - yn parhau am gryn amser.