Y Gynghrair Genedlaethol: Barnet 0-2 Wrecsam
- Cyhoeddwyd
Fe wnaeth Wrecsam sicrhau tri phwynt arall gan aros yn y pumed safle yn y Cynghrair Cenedlaethol ar ôl buddugoliaeth yn erbyn Barnet o waelodion yr adran.
Ergyd Luke Young o bell roddodd yr ymwelwyr ar y blaen cyn yr egwyl, gyda Elliot Durrell yn cwblhau'r sgorio 10 munud o'r diwedd.
Mae Wrecsam nawr yn ddiguro mewn pedair gêm.
Mae eu gêm nesaf ddydd Sadwrn byddant gartref yn erbyn Weymouth.