Colli tir gwyrdd Aber i ddatblygwyr 'yn achos pryder'

  • Cyhoeddwyd
Cae
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r safle dan sylw yn cynnwys cae pêl-droed

Mae gwrthwynebiad cryf i gynlluniau i godi ystâd newydd o dai yn ardal Aberystwyth gan y bydd yn golygu colli - yn ôl y gwrthwynebwyr - un o'r ychydig ddarnau o dir gwyrdd sydd ar ôl yn yr ardal.

Mae Cyngor Ceredigion wedi derbyn gwrthwynebiadau gan bobl sy'n poeni am yr effaith ar draffig a'r hyn maen nhw'n gweld fel cynnydd yn y risg o lifogydd ym mhentre' Llanbadarn Fawr.

Ar ôl cynnal asesiadau mae ymgynghorwyr wedi dweud nad oes lle i boeni am y naill fater na'r llall, ac mae'r cyngor wedi dweud y bydd yn ystyried y gwrthwynebiadau wrth ddod i gasgliad ynglŷn â'r cais yn y drefn arferol.

Mae rhai gwrthwynebwyr yn ceisio profi hefyd bod y tir wedi cael ei adael i bobl leol ar gyfer defnydd cymunedol a na ddylid ei ddatblygu am y rheswm yna.

Safle'r datblygiad arfaethedig yw cae ar ben bryn uwchlaw pentref Llanbadarn Fawr.

Roedd y safle yn arfer bod yn un o gaeau fferm Erw Goch.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r safle dan sylw uwchben Llanbadarn Fawr

Mae'r ffermdy yn dal i'w weld, ond mae rhan fwya'r tir o'i gwmpas wedi'i ddatblygu eisoes.

Nawr mae gan gymdeithas tai Wales and West a Chyngor Ceredigion gynlluniau ar y cyd i godi dros 60 o gartrefi ar y safle - yn cynnwys tai fforddiadwy - a 12 o fflatiau hefyd i bobl ag anawsterau dysgu.

Ond mae 'na wrthwynebiad. Mae dros 100 o bobl wedi anfon llythyron at y cyngor, yn poeni am gynnydd mewn traffic a llifogydd.

Disgrifiad o’r llun,

Elin Mabbutt: 'Mae'n ddarn o dir eithriadol o bwysig i'r gymuned'

Dywedodd Elin Mabbutt, y bydd yn golled fawr ac mae hi yn gwrthwynebu adeiladu ar ddarn o dir poblogaidd.

"Mae 'na bobl hŷn yn dod i gerdded yma gan ei bod yn ardal saff, dros y cyfnod clo roedd plant yn chwarae yma.

"Mae fe'n lleoliad diogel. Mae llawer iawn o bobl yn cerdded yma gyda'u cŵn, mae llwybr cyhoeddus yn mynd trwy'r darn o dir, felly mae'n ddarn o dir eithriadol o bwysig i'r gymuned ac un o'r darnau gwyrdd olaf sydd yn yr ardal yma."

Bydd y llwybr cyhoeddus sy'n croesi'r tir yn cael ei gadw, a bydd lle agored a man chwarae i'r cyhoedd yn rhan o'r datblygiad hefyd.

Mae yna gae pêl-droed ar y tir ar hyn o bryd - atgof o gystadleuaeth flynyddol, a'r defnydd gafodd ei wneud o'r tir gan y gymuned.

Yn ôl y gwrthwynebwyr mae nifer o bobl hŷn lleol wedi dweud wrthyn nhw bod y tir wedi cael ei adael i'r gymuned gan y ffermwr oedd yn byw yma yn y 1960au.

Maen nhw'n dweud mai'r bwriad oedd i'w ddefnyddio ar gyfer defnydd lleol ac nid i'w ddatblygu.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed y cynghorydd Gareth Davies byddai gallu profi bod y tir wedi'i roi i'r gymuned yn allweddol.

Ar hyn o bryd dim ond tystiolaeth lafar y bobl leol sydd ganddyn nhw.

"Yn anffodus dy'n ni ddim wedi gallu ffeindio y gweithredoedd," meddai Elin Mabbutt.

"Y'n ni'n amau eu bod nhw yn cael eu cadw gan Gyngor Ceredigion.

"Ry'n ni wedi rhoi cais mewn i weld copi o'r gweithredoedd er mwyn gweld os oes unrhyw amodau sy'n golygu bod y tir ddim i fod i gael ei ddefnyddio am fudd economaidd ac ati."

Mae'r cynghorydd Gareth Davies, sy'n cynrychioli un o wardiau Llanbadarn, yn dweud y byddai gallu profi bod y tir wedi'i roi i'r gymuned yn allweddol.

"Os oes rhyw fath o 'covenant' ar y tir sy'n dweud nad yw e ddim i fod i gael ei ddatblygu, ac mae at ddefnydd y gymuned yw e, dw i'n meddwl y byddai'n rhoi stop ar y cais cynllunio yn syth."

'Dim lle i boeni am lifogydd'

Dywedodd Cyngor Ceredigion ei fod yn ymchwilio i gwestiynau ynglŷn â'r gweithredoedd, ac y bydd y gwrthwynebiadau yn cael eu hystyried wrth ddod i gasgliad ynglŷn â'r cais yn y drefn arferol.

Er i arbenigwyr ddweud nad oes lle i boeni am lifogydd posib, ac y bydd system draenio yr ystâd yn gallu ymdopi gydag unrhyw law sy'n llifo oddi ar wynebau caled yr hewlydd a'r tai, mae pryderon yn parhau meddai'r cynghorydd Davies.

"Dw i wastad yn edrych ar y cae yma fel rhyw fath o 'sbwnj'.

"Mae e'n dal dŵr, ond os gwnewch chi ffwrdd â'r 'sbwnj' yna ac yn rhoi tai arno fe ac yn rhoi tarmac a concrit arno fe, mae'n rhaid i'r dŵr fynd i rywle.

"A ble mae e'n mynd ond lawr y rhiw i bentref Llanbadarn Fawr."

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Ceredigion :"Mae cais cynllunio wedi cael ei gyflwyno. Daeth rhai gwrthwynebiadau i law a byddant yn cael eu hystyried wrth ddod i gasgliad ynglŷn â'r cais.

"Bydd y cais yn cael ei asesu'n unol â Chynllun Datblygu Lleol y Cyngor sy'n dynodi'r safle ar gyfer datblygu tai, yn ogystal â pholisïau lleol a chenedlaethol eraill."

Pynciau cysylltiedig