Sector babanod 'wedi'i hesgeuluso' yn ystod y pandemig

  • Cyhoeddwyd
PlantFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae pryder y gallai'r pandemig gael effaith hirdymor ar ddatblygiad rhai plant

Gall babanod a phlant bach sydd wedi bod "dan anfantais" yn ystod y pandemig ddioddef yn y tymor hir, yn ôl grŵp o elusennau.

Mae'r Grŵp Gweithredu Blynyddoedd Cynnar yn galw ar wleidyddion i flaenoriaethu anghenion plant dwy oed ac iau.

Dywedodd un rheolwr cylch chwarae bod y sector wedi cael ei "hesgeuluso", gan ychwanegu y dylid caniatáu i grwpiau chwarae ailagor.

Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai unrhyw ddiweddariad yn cael ei gyhoeddi "maes o law".

'Anwybyddu anghenion ein plant ieuengaf'

Yn ôl Anna Westall o elusen Plant yng Nghymru, mae sylw wedi ei roi i'r hyn sy'n digwydd i blant oed ysgol yn ystod y pandemig, ond ni ddylai plant iau gael eu hanwybyddu.

"Rydyn ni wedi gwybod ers cryn amser pa mor bwysig yw'r 1,000 o ddiwrnodau cyntaf i weddill bywyd unigolyn," meddai.

"Mae'r cyfnod hwn yn cael effaith hirhoedlog ar ddatblygiad deallusol, emosiynol a chymdeithasol plant, gan effeithio ar ganlyniadau addysgol, perthnasoedd a chyfleoedd yn y dyfodol ac iechyd corfforol a meddyliol tymor hwy.

"Mae llawer o sylw wedi'i roi i brofiadau plant oed ysgol yn ystod Covid.

"Ond ni allwn fforddio anwybyddu anghenion ein plant ieuengaf os ydym am osgoi ymestyn yr amser y mae'n ei gymryd i ni ddelio ag effaith y pandemig."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Kate Morgan wedi dechrau deiseb yn galw am ganiatáu i grwpiau chwarae cymunedol ailagor

Mae Kate Morgan, sy'n rhedeg grŵp chwarae babanod a phlant bach, wedi bod yn cynnal sesiynau ar-lein yn ystod y pandemig, ond dywedodd nad yw'n ddigon i gefnogi plant yn iawn.

Mae hi wedi cychwyn deiseb i ganiatáu i grwpiau chwarae cymunedol ailagor.

"Rydyn ni'n poeni'n fawr am ddatblygiad ein babanod a'n plant bach oherwydd heb sesiynau grŵp mae'n anodd iawn ail-greu'r gweithgareddau rydyn ni'n eu gwneud ar-lein," meddai.

Cyfnodau clo yn cael effaith

Dywedodd Efi Nydriodi - mam i dri o blant o Gaerdydd - fod y cyfnodau clo wedi bod yn anodd iawn i'w mab ieuengaf, Alex, sy'n dair oed.

Mae Alex wedi dechrau'r ysgol am y tro cyntaf yr wythnos hon, a dywedodd Efi bod hynny'n "rhyddhad".

Cyn y pandemig dywedodd Efi fod Alex yn datblygu i fod yn blentyn cymdeithasol a chreadigol, ond mae'r cyfnodau clo wedi effeithio ar ei dwf a'i ddatblygiad.

"Mae wedi bod yn ddinistriol gwylio fy mhlentyn yn dod yn fwy unig ac isel ei ysbryd," meddai.

"Mae'n rhaid iddyn nhw gymdeithasu gyda phlant yr un oedran â nhw, a pheidio bod gyda ni fel rhieni bob amser.

"Dyma'r amser maen nhw'n dysgu sut i fod yn rhan o gymdeithas ac mae sefyllfa Covid wedi atal hynny."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Efi Nydriodi bod ei mab, Alex wedi mynd yn "unig ac isel ei ysbryd" yn ystod y pandemig

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae lles plant wedi bod wrth wraidd ein cynlluniau wrth ymateb i Covid-19.

"Rydym ni hefyd wedi cyhoeddi £3.5m mewn cyllid trwy ein Cronfa Datblygu Plant i gynorthwyo plant dan bump oed sydd wedi cael eu heffeithio fwyaf gan y cyfnod clo."

Dywedodd Plaid Cymru eu bod nhw eisiau "addysg blynyddoedd cynnar am ddim i bob plentyn hyd at 24 mis, tan eu bod nhw'n cychwyn yn yr ysgol".

Mae Ceidwadwyr Cymreig yn dweud y byddan nhw'n "edrych ar sut i gefnogi datblygiad pobl ifanc a phlant o bob oedran, er mwyn sicrhau eu bod nhw'n gallu dal i fyny ar yr addysg maen nhw wedi'i golli, y diffyg rhyngweithio â'u cyfoedion, ac i roi pwyslais ar gyfleoedd datblygu ar gyfer babanod ifanc a phlant".