'Angen gwneud mwy i bontio yr hen a'r ifanc'
- Cyhoeddwyd
Mae angen i Lywodraeth Cymru wneud mwy i bontio'r cenedlaethau drwy gynnig mwy o fuddsoddiad a strwythuro prosiectau'n well yn ôl un o bwyllgorau trawsbleidiol Senedd Cymru a'r Comisiynydd Plant, Sally Holland.
Nod prosiectau 'Pontio'r Cenedlaethau' yw dod â phobl ifanc a phobl hŷn ynghyd i fynd i'r afael â phroblemau cymdeithasol fel unigrwydd.
A hithau'n wythnos dathlu'r fenter mae'r Comisiynydd Plant yn dweud y gallai'r cynllun fod yn allweddol wrth uno cymunedau wedi'r pandemig ond mae hi'n rhybuddio fod y ddarpariaeth ar hyn o bryd yn fratiog a bod lle i wella.
Wrth ymateb dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod nhw'n "cydnabod y manteision niferus" a'u bod yn edrych ymlaen at weithio gyda phartneriaid i "sefydlu a datblygu cysylltiadau rhwng cenedlaethau ledled Cymru".
Fe ddaeth yr egwyddor o bontio rhwng y cenedlaethau i sylw cenedlaethol wrth i raglen S4C Hen Blant Bach ddangos plant ifanc yn ymweld â chartref dydd i'r henoed ac roedd yr effeithiau positif i'w gweld yn glir.
Erbyn hyn mae 'na brosiectau ar draws Cymru yn uno pobl ifanc a phobl hŷn gyda'r nod o chwalu stigma, chwalu rhagfarn yn erbyn henoed ac ysgogi cenedlaethau i ddysgu oddi wrth ei gilydd.
Ond mae 'na alw rŵan i wneud y trefniadau yn bolisi gwleidyddol a cheisio gwreiddio'r egwyddor o uno'r ddwy garfan ym mhob agwedd o gymdeithas.
Dywed y Comisiynydd Plant, Sally Holland, wrth raglen Dros Frecwast bod mentrau sy'n pontio'r cenedlaethau yn cynnig manteision dwyochrog ac mae'n credu hefyd y byddai'n beth da petai menter fel hyn yn dod yn rhan o'r cwricwlwm addysg.
"Mae'n hyfryd gweld pobl ifanc a phobl hŷn gyda'i gilydd," meddai, "mae'r broses yn help i daclo unigrwydd a rhagfarn. Mae pobl ifanc yn gallu gweld nad yw pobl hŷn yn ddiflas ac mae pobl hŷn yn gweld nad yw pobl ifanc yn fygythiad.
"Dydyn ni ddim am i gynlluniau fel hyn ddod i ben a dyna pam dwi'n galw am fwy o ddatblygiad strategol - mae'r mentrau yn creu cymunedau cryfach ac yn delio ag unigrwydd - nid dim ond pobl hŷn sy'n gallu bod yn unig - dangosodd arolygon diweddar bod nifer o rai 17 oed yn unig yn y cyfnod clo," ychwanegodd.
Yng Ngwynedd mae'r cyngor lleol bellach yn cyflogi swyddog Pontio'r Cenedlaethau sydd wedi bod yn gyfrifol am annog pobl ifanc i ysgrifennu at bobl hŷn yn ystod y cyfnod clo i fagu perthynas a cheisio cadw cwmni mewn cyfnod sydd wedi profi'n unig i nifer.
"Mae'r budd o hwn i weld yn amlwg," yn ôl Mirain Llwyd Roberts, Cydlynydd Pontio'r Cenedlaethau i Gyngor Gwynedd.
"Mae llawer o bobl yn nodi pa mor unig ydyn nhw yn y llythyrau, mae nhw'n ateb y plant ac yn amlwg fod y llythyrau yma yn gallu gwneud y gwahaniaeth lleiaf i fywydau rhywun sydd ddim yn gweld llawer o bobl.
"Ond mae o hefyd yn fuddiol i'r plant gan eu bod nhw'n dysgu sut i lythyru a maen nhw'n cael cyfle i wneud cysylltiadau mewn cyfnod lle mae nhw mond yn gweld pobl eu hoedran nhw neu eu teulu agosa."
Yn ôl y grŵp trawsbleidiol mae llwyddiannau prosiectau tebyg wedi dangos fod angen i Lywodraeth Cymru 'gryfhau'r cysylltiadau' rhwng y ddwy garfan a chreu strwythur pendant ar draws Cymru.
Cydnabod y manteision
Mewn datganiad dywedodd y pwyllgor mai ei nod ers sefydlu yn Nhachwedd 2020 yw ceisio lobïo am ragor o fuddsoddiad, hybu prosiectau o'r fath a dangos gallu Pontio'r Cenedlaethau i gyfrannu at yr economi a chymdeithas wedi Covid-19.
Gyda chynlluniau fel penpals lle mae'r to hŷn a'r ifanc yn gyrru llythyron at ei gilydd yn llwyddiant ysgubol gyda'r ddwy ochr yn elwa mae 'na obaith y bydd modd ehangu'r ddarpariaeth wedi cyfnod Covid.
Mewn datganiad dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod nhw'n "cydnabod y manteision niferus" sy'n dod yn sgil Pontio'r Cenedlaethau ac eu bod wedi bod yn "falch o allu cynnal cynhadledd" ar y pwnc ar 8 Mawrth.
Ychwanegodd llefarydd eu bod nhw'n edrych ymlaen at weithio gyda phartneriaid i sefydlu a datblygu cysylltiadau rhwng cenedlaethau ar draws Cymru.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Rhagfyr 2017
- Cyhoeddwyd3 Mawrth 2017