Dathlu Sul y Mamau ar ôl blwyddyn anodd
- Cyhoeddwyd
Wrth ddathlu Sul y Mamau, rhiant newydd sy'n rhannu ei phrofiad o fod yn fam am y tro cyntaf mewn pandemig a'i babi yn yr ysbyty am saith mis.
Ar Fawrth 16 y llynedd, roedd Cerys Wyn yn edrych ymlaen at gael ei babi cyntaf fis Mehefin ac yn gobeithio cael haf braf o fagu. Ond fe newidiodd ei bywyd hi - a'r byd - yn gynt na'r disgwyl.
Roedd wedi cerdded i'w gwaith y diwrnod hwnnw a dechrau cael poenau yn ystod y dydd oedd yn achosi pryder.
"Ro'n i newydd gael cinio a theimlo bod poena 'da fi," meddai. "Erbyn hanner awr wedi pedwar ro'n i'n meddwl 'fi ddim yn teimlo'n dda o gwbl'. Ddaeth Huw y gŵr i bigo fi lan ac aethon ni'n syth i'r ysbyty."
O fewn pedair awr roedd Caio Wyn wedi cyrraedd yn pwyso llai na thri phwys, ac roedd blwyddyn llawn sialensiau o'u blaenau.
"Roedd e'n 11 wythnos yn gynnar ac roedd e wedi gorfod cael ei resuscitatio," meddai Cerys, sy'n byw yng Nghaerdydd. "Roedd y consultants i gyd yn yr ystafell ac roedd amboiti 10 person yn y stafell pan nes i gael e."
Doedd neb yn disgwyl i'r babi ddod yn gynnar ond roedd sgan wythnosau ynghynt wedi codi pryderon.
Doedd y beipen fwyd ddim yn mynd yr holl ffordd i'r stumog ac felly drannoeth yr enedigaeth roedd yn rhaid i'r babi fynd am lawdriniaeth i osod tiwb er mwyn ei fwydo.
Oherwydd ei fod mor fychan cafodd ei rieni newydd wybod y byddai'n rhaid iddo aros yn Ysbyty Athrofaol Cymru am dri mis arall tan fydden nhw'n mentro cau'r bwlch rhwng y gwddf a'r stumog.
Yn goron ar y cyfan, o fewn dyddiau daeth cyfyngiadau'r cyfnod clo i rym. Dim ond un rhiant ar y tro fyddai'n cael mynd i weld Caio, cyn i'r rheolau gael eu tynhau ymhellach a dim ond un rhiant y dydd oedd yn cael mynd i'r ysbyty.
"Y peth mwya' caled oedd gorfod expressio llaeth heb gael babi gyda fi," meddai Cerys. "Am bum mis nes i neud e. Doedd neb yn gallu mynd i'w weld e i'r ysbyty os oeddwn i'n teimlo bod fi ffili un dydd neu angen cael break.
"Rhai dyddiau doeddwn i ffili mynd mewn o gwbl achos bod gŵr fi wedi mynd mewn. Doedd e ddim yn naturiol i fod i ffwrdd o dy blentyn di. Mae wedi bod yn anodd."
Oherwydd rhesymau meddygol bu'n rhaid gohirio'r llawdriniaeth sawl tro ac roedd Caio i mewn dros yr haf cyfan a chyfnod mamolaeth Cerys yn wahanol iawn i'r hyn oedd wedi ei obeithio:
"Ro'n i'n edrych 'mlaen achos bod un o ffrindiau fi'n cael babi mis Ebrill a fi Mehefin, ac roedd chwaer fi'n cael ail babi hi mis Ebrill.
"Yn yr haf bydde ni wedi gallu mynd i gaffis a mynd am walks a chael playdate bach yn tŷ ein gilydd, a bydde wedi bod yn neis dreifo lan i weld fy chwaer yng nghanol wythnos achos bydde hi wedi bod bant hefyd a mynd mas gyda nhw achos roedd pobl yn gallu mynd o gwmpas bach mwy yn yr haf.
"Ti yn teimlo bach bod rhywbeth wedi cael ei chymryd oddi wrthot ti, beth mae cyfnod mamolaeth i fod."
Ar ôl saith mis o ddisgwyl, aed a Caio i'r theatr a sylweddoli bod y sefyllfa yn waeth na'r disgwyl a'r driniaeth yn amhosib. Felly fis Hydref fe gafodd fynd adref am y tro cyntaf.
"Roedd e'n lyfli jest gallu bod 'da'n gilydd fel teulu," meddai Cerys. "Dwi'n gwybod bod locdown wedi bod ond o leia' ni wedi gallu bod gyda'n gilydd a jest treulio amser 'da'n gilydd lot mwy. Mae Huw wedi gallu hala lot mwy o amser 'da fi na beth bydde fe fel arfer - mae'n gweithio gartref nawr.
"Wnaeth Mam a Dad weld e gynta' fis Tachwedd. Roedd e'n lyfli, jest gweld nhw'n dod trwy'r drws a methu credu bron bod nhw wedi gweld e o'r diwedd, a bod e'n bodoli. Roedden nhw'n cael lluniau bob dydd ond actually gweld e a chael gafael arno fe. Roedd hynny'n neis.
"Un o'r pethe anodda' oedd taw dim ond Mam a Dad a Mam a Thad Huw sydd wedi ei weld e - a ma'n chwaer i wedi gweld e unwaith - a that's it, sneb arall wedi gweld e."
Bydd Caio, sydd bron yn flwydd, nawr yn cael triniaeth wahanol pan yn hŷn ac ymhen cwpwl o fisoedd bydd Cerys yn dychwelyd i'w gwaith.
Er gwaetha'r flwyddyn anodd, mae Cerys, sy'n llawn canmoliaeth i'r tîm meddygol yn yr ysbyty yng Nghaerdydd, yn mwynhau'r profiad o fod yn fam ac yn llawn balchder o'i mab:
"Ma' fe'n grêt. Tan ti'n cael babi ti ddim yn gwybod be' mae pawb arall yn siarad am - mae mor lyfli. Mae'n trial dechrau cropian nawr ond yn rili frustrated - mae o eisiau mynd i bob man ond ffili, a mae'n bablan.
"Mae'r bobl sy'n dod yma - y dietician a'r speech therapist - maen nhw methu coelio bod o'n prem… mae ei ddatblygiad o yn rili da ac mae'n hapus, heblaw pan mae'n cael dannedd trwyddo.
"Fydd e'n cael llawdriniaeth gobeithio pan mae'n cerdded felly falle diwedd y flwyddyn.
"Mae'r consultant wastad yn dweud 'he's done so well, there are so many thing that could have gone wrong - but he's strong'.
"Mae fe wedi bod yn lyfli ac mae o'n neud fi'n emosiynol pan fi'n meddwl pa mor bell mae o wedi cyrraedd."
Hefyd o ddiddordeb: