Cyngor i bobl fregus gysgodi i ddod i ben ar 1 Ebrill

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Cysgodi

Fe fydd pobl sydd wedi bod yn ynysu eu hunain oherwydd eu hiechyd, sef cysgodi, yn cael dechrau dychwelyd i fywyd mwy arferol o 1 Ebrill, meddai'r llywodraeth.

Cafodd dros 130,000 o bobl sydd â chyflyrau meddygol sy'n eu gwneud yn fregus eu cynghori i aros adref a chadw draw rhag eraill.

Fe wnaeth gweinidogion atal y cyngor dros dro ym mis Awst, ond daeth yn ôl i rym cyn y Nadolig wrth i lefelau Covid-19 gynyddu ddiwedd 2020.

Erbyn hyn mae'r cyfraddau heintio wedi cwympo'n ddigonol er mwyn atal y cyngor dros dro eto.

Mewn datganiad, dywedodd y Gweinidog Iechyd Vaughan Gething ei fod yn "ymwybodol o'r niwed cysylltiedig" â pharhau i ofyn i bobl gysgodi.

Ac wrth i'r gyfradd o achosion o'r coronafeirws fesul 100,000 o bobl gwympo i 41.1 - yr isaf ers canol Medi - dywedodd ei fod ond am i'r cyngor fod mewn grym pan mae'n "gwbl hanfodol".

Er hynny, mae'r llywodraeth wedi dweud mai atal y cyngor dros dro yw'r penderfyniad, ac nad yw'n bosib diystyru'r angen am fesurau o'r fath eto.

Ychwanegodd y datganiad y byddai'r rhestr o bobl sydd wedi cysgodi yn cael ei gadw rhag ofn bod angen gofyn i unrhyw un ynysu eto, ond mai'r "gobaith gwirioneddol" oedd na fyddai angen hynny.

Mae elusen ganser Macmillan wedi dweud y gallai'r cyhoeddiad "fod yn achos pryder i rai sydd wedi bod yn cysgodi", a'i bod hi bellach "yn gyfrifoldeb ar Lywodraeth Cymru a chyflogwyr i sicrhau bod y mwyaf bregus mewn cymdeithas yn parhau i gael eu hamddiffyn wrth i'r cyfnod clo lacio".

Ychwanegodd y llefarydd y byddai pob unigolyn angen yr hyblygrwydd i ymateb i'r cyhoeddiad "yn y ffordd sy'n gweithio orau i'w hiechyd meddyliol a chorfforol".