Pedwar o ddwy aelwyd yn gallu cwrdd mewn gardd

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
cymdeithasuFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd pedwar o bobl o ddwy aelwyd yn gallu cwrdd yn yr awyr agored o ddydd Sadwrn ymlaen

Bydd Cymru yn codi'r gofyniad i "aros gartref" yng Nghymru o ddydd Sadwrn ymlaen, gan gyflwyno gofyniad i "aros yn lleol" yn ei le.

Mae hyn, medd Llywodraeth Cymru "yn rhan o ddull gofalus, pwyllog a graddol o lacio'r cyfyngiadau coronafeirws".

O ddydd Sadwrn ymlaen, bydd pedwar o bobl o ddwy aelwyd yn gallu cwrdd yn yr awyr agored i gymdeithasu, gan gynnwys mewn gerddi.

Mewn cyfweliad ar BBC Radio 4 fore Gwener, ychwanegodd y Prif Weinidog Mark Drakeford y byddai pobl Cymru'n gallu cymryd gwyliau dros y Pasg mewn rhai mathau o lety "os fydd pethau'n parhau i symud yn y cyfeiriad cywir".

Dywedodd: "Cyn belled bod hynny'n digwydd, fe fyddwn ni'n agor llety hunangynhwysol erbyn y Pasg, felly fe fyddwch chi'n medru mynd i garafan neu logi bwthyn."

Byddai hyn, meddai, yn caniatáu i bobl deithio o fewn Cymru, ond roedd rheolau Lloegr yn golygu na fyddai pobl â'r hawl i deithio i Gymru am wyliau o Loegr.

"Mae'n bwysig iawn nad yw perchnogion llety hunangynhwysol yn cymryd archebion o'r tu allan i Gymru dros y Pasg oherwydd ni fydd y trefniadau a fydd yn berthnasol dros ein ffin," meddai yn y gynhadledd ddydd Gwener.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd cyfleusterau chwaraeon awyr agored, gan gynnwys cyrtiau pêl-fasged, cyrtiau tenis a chyrsiau golff yn ailagor

Yn ogystal, bydd cyfleusterau chwaraeon awyr agored, gan gynnwys cyrtiau pêl-fasged, cyrtiau tenis a chyrsiau golff, yn cael ailagor, a bydd ymweliadau dan do â chartrefi gofal yn ailddechrau ar gyfer un ymwelydd dynodedig.

O ddydd Llun ymlaen, bydd pob disgybl ysgol gynradd a disgyblion sy'n astudio ar gyfer cymwysterau yn dychwelyd - eisoes mae'r rhai ieuengaf wedi dychwelyd.

Bydd gan ysgolion yr hyblygrwydd i ddod â dysgwyr blynyddoedd 10 a 12 yn eu holau a bydd mwy o ddysgwyr yn dychwelyd i golegau.

Fe fydd hyblygrwydd hefyd i ysgolion gynnal sesiynau ailgydio ar gyfer pob disgybl arall.

Bydd pob disgybl yn dychwelyd ar ôl gwyliau'r Pasg.

£150m i gefnogi busnesau

Bydd siopau trin gwallt a siopau barbwr yn ailagor ar gyfer apwyntiadau o ddydd Llun ymlaen.

O 22 Mawrth ymlaen bydd manwerthu nad yw'n hanfodol yn dechrau ailagor yn raddol, wrth i'r cyfyngiadau ar yr hyn y gellir ei werthu mewn siopau sydd ar agor ar hyn o bryd gael eu codi a bydd canolfannau garddio yn cael agor hefyd.

Ni fydd siopau lle mae gwasanaethau cyswllt agos yn cael agor tan 12 Ebrill - yr un dyddiad ag yn Lloegr.

Mae Llywodraeth Cymru wedi addo y bydd £150m ychwanegol ar gael i gefnogi'r busnesau hynny sydd ddim yn cael ailagor tan ddiwedd Mawrth.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd siopau trin gwallt yn cael yr hawl i ailagor ddydd Llun

Ychwanegodd Mr Drakeford yn y gynhadledd y bydd Llywodraeth Cymru yn edrych ar roi'r hawl i "fwy o bobl gael cysylltiad â'i gilydd" yn ystod ail hanner Ebrill.

Ond rhybuddiodd bod cymysgu mewn cartrefi yn un o'r pethau mwyaf peryglus, gan ychwanegu mai "dyna arweiniodd at ein problemau cyn y Nadolig".

Os yw pethau'n parhau i wella dywedodd y bydd y llywodraeth yn ystyried a oes modd i bobl gyfarfod dan do yn hanner olaf Ebrill.

"Dyma'r arfer mae pawb yn ei golli ac am ei adfer," meddai.

Beth fydd yn newid a phryd?

O ddydd Sadwrn, 13 Mawrth:

  • 'Aros gartref' yn newid i 'Aros yn lleol';

  • Gall pedwar person o ddwy aelwyd gyfarfod yn yr awyr agored i gymdeithasu (Nid yw plant yn cyfri yn y rhif yna);

  • Adnoddau chwaraeon awyr agored megis golff, tenis a phêl-fasged yn cael ailagor;

  • Ymwelwyr unigol a phenodol yn cael mynd i gartrefi gofal.

O ddydd Llun, 15 Mawrth:

  • Pob plentyn cynradd a rhai uwchradd mewn blynyddoedd cymwysterau yn dychwelyd i'r dosbarth;

  • Rhyddid i ysgolion ddod â disgyblion blynyddoedd 10 a 12 yn ôl a mwy o fyfyrwyr yn dychwelyd i golegau;

  • Siopau trin gwallt a barbwr i gael ailagor gydag apwyntiad yn unig.

O ddydd Llun, 22 Mawrth:

  • Llacio graddol ar werthu nwyddau sydd ddim yn hanfodol mewn archfarchnadoedd;

  • Canolfannau garddio i ailagor.

O ddydd Sadwrn, 27 Mawrth:

  • Llety hunangynhwysol yng Nghymru i ailagor os fydd cyfraddau heintio'n parhau yn isel.

O ddydd Llun, 12 Ebrill:

  • Pob siop arall yn cael ailagor - yr un dyddiad ag yn Lloegr;

  • Pob disgybl yn dychwelyd i'r ysgol.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Mark Drakeford ei bod yn bosib y bydd modd i bobl gyfarfod dan do yn hanner olaf Ebrill

Dywed Mr Drakeford ei fod am ddiolch i bawb am wneud eu rhan ond roedd yn awyddus i bwysleisio nad ydy'r haint wedi diflannu.

"Yn gyffredinol, mae nifer yr achosion o coronafeirws yn parhau i ostwng; mae llai o bwysau ar ein GIG, ac mae'n rhaglen frechu yn parhau i fynd o nerth i nerth," meddai ddydd Gwener.

"Ond ein cyngor clir iawn yw nad yw'r feirws wedi diflannu - yr amrywiolyn hynod heintus o Gaint yw'r straen amlycaf yng Nghymru, a chyn gynted ag y byddwn ni'n dechrau cymysgu eto, bydd y feirws yn dod yn ei ôl hefyd."

'Bradychu' siopau

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Adam Price bod y llywodraeth wedi "cyfathrebu'n wael" gyda siopau sydd ddim yn rhai hanfodol, a'u bod wedi codi gobeithion y byddai modd iddyn nhw agor ynghynt.

Ychwanegodd bod busnesau wedi gorfod talu i fod yn barod i agor ddydd Llun, "ond nawr dydyn nhw ddim yn cael gwneud hynny".

Yn ôl arweinydd y grŵp Ceidwadol yn y Senedd, Andrew RT Davies, mae Llywodraeth Cymru wedi "bradychu" siopau sydd ddim yn hanfodol.

Ychwanegodd bod y Prif Weinidog "wedi gwneud tro pedol" ar y mater, ond mae Mr Drakeford wedi gwadu hynny.

Mynnodd y Prif Weinidog nad oedd wedi addo unrhyw beth i fusnesau yn yr arolwg diwethaf, a'i fod yn hytrach wedi awgrymu y byddai'r llywodraeth yn "edrych ar sut y byddwn yn dechrau" gadael i siopau ailagor.

"Dywedais dair wythnos yn ôl y byddwn yn dechrau ailagor siopau sy'n gwerthu nwyddau na sy'n angenrheidiol a dyna'n union sy'n digwydd," meddai.