Nick Ramsay ddim i sefyll ar ran y Ceidwadwyr

  • Cyhoeddwyd
Nick Ramsay

Ni fydd Aelod o'r Senedd Ceidwadol Mynwy yn ymgeisio ar ran y blaid yn yr etholiad nesaf wedi iddo dynnu'n ôl o gyfarfod dethol ymgeisydd.

Roedd disgwyl i Nick Ramsay wynebu aelodau lleol o'r blaid mewn cyfarfod nos Wener.

Cafodd Peter Fox, arweinydd Cyngor Sir Fynwy, ei ddewis yn lle Mr Ramsay.

Dywedodd Mr Ramsay ei fod wedi penderfynu "mai'r peth gorau i bawb oedd tynnu'n ôl o'r broses dethol".

Mae'r AS wedi cynrychioli Mynwy ym Mae Caerdydd ers 2007. Bydd etholiad y Senedd yn cael ei gynnal ar 6 Mai.

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Welsh Conservatives

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Welsh Conservatives

Penderfynodd aelodau Cymdeithas Geidwadol Mynwy i ddad-ddethol Mr Ramsay wedi i'r berthynas rhyngddo ac aelodau lleol ddirywio yn 2020.

Ceisiodd Mr Ramsay atal y broses yn y llysoedd, ond wedi iddo dynnu cais am orchymyn llys yn ôl cafodd orchymyn i dalu £25,000 mewn costau cyfreithiol.

Mae Mr Ramsay eto i dalu'r costau hynny ac mae'r gymdeithas yn dwyn camau dirmyg llys yn ei erbyn.

Er iddo gael ei ddad-ddethol, roedd rheolau'r blaid yn caniatáu iddo fod ymhlith tri ymgeisydd i'r aelodau eu hystyried wrth iddyn nhw ddewis ymgeisydd o'r newydd.

'Byddai wedi arbed amser, trafferth ac arian'

Roedd gweithgor y gymdeithas wedi dewis Peter Fox a Carolyn Webster, ymgeisydd y blaid yn etholaeth Gorllewin Caerdydd yn etholiad cyffredinol 2019, i sefyll yn erbyn Mr Ramsay.

Ond daeth i'r amlwg cyn i'r cyfarfod ddechrau nos Wener nad oedd Mr Ramsay'n cymryd rhan. Mae BBC Cymru wedi cael gwybod bod y gymdeithas wedi cael eu hysbysu gan y Blaid Geidwadol yn hytrach na gan Mr Ramsay ei hun.

Dywedodd un o selogion y blaid wrth BBC Cymru bod penderfyniad Mr Ramsay wedi rhoi sioc i'r aelodau.

"Byddai wedi arbed llawer o amser, trafferth ac arian," meddai, petai Mr Ramsay wedi tynnu'n ôl yn gynt.

Dywedodd cadeirydd y gymdeithas, Nick Hackett-Pain, bod Mr Fox "wedi bod yn arweinydd rhagorol ar Gyngor Sir Fynwy am flynyddoedd lawer a bydd yn Aelod o'r Senedd gwych."

Yn ôl Aelod Seneddol Mynwy, David Davies mae gan Mr Fox "y profiad a'r brwdfrydedd i'n cynrychioli ni yn y Senedd".

Dywedodd Mr Ramsay wrth BBC Cymru: "Gwnes i benderfynu taw'r peth gorau i bawb oedd tynnu'n ôl o'r broses dethol.

"Fy mhrif flaenoriaeth yw cynrychioli etholaeth Mynwy a delio gyda'r pandemig.

"Mi wnaf nawr ystyried beth sydd orau i fy etholwyr a fy nheulu dros yr wythnosau nesaf ac fe wnaf ddatganiad llawnach maes o law."

Mae ymgeiswyr eraill sydd wedi eu dewis i sefyll ym Mynwy yn cynnwys Catrin Maby ar ran y Blaid Lafur, Jo Watkins ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol a Hugh Kocan ar ran Plaid Cymru.