Gorchymyn Nick Ramsay AS i dalu costau o £25,000

  • Cyhoeddwyd
Nick Ramsay
Disgrifiad o’r llun,

Mae gan Nick Ramsay 28 diwrnod i wneud y taliad o oddeutu £ 25,000

Mae'r aelod Ceidwadol o Senedd Cymru Nick Ramsay wedi cael gorchymyn gan farnwr i dalu costau cyfreithiol o oddeutu £25,000 yn dilyn ymgais aflwyddiannus i atal cyfarfod o gymdeithas ei blaid leol rhag digwydd ddydd Llun.

Mae cyfarfod o Gymdeithas Geidwadol Mynwy wedi cael ei alw i drafod deiseb yn galw am ddad-ddethol Mr Ramsay cyn etholiadau'r Senedd y flwyddyn nesaf.

Yn y gwrandawiad, a gynhaliwyd ar-lein, tynnwyd cais Mr Ramsay am waharddeb yn ôl a gwnaed cais i adennill costau gan y diffynnydd, Nick Hackett-Pain, cadeirydd Cymdeithas Geidwadol Mynwy ar ran ei aelodau.

Gwrthododd y Barnwr Paul Matthews y cais hwn a dywedodd y byddai'r cais i atal, pe bai wedi'i wneud, wedi methu ac felly dylai'r parti aflwyddiannus dalu costau'r parti llwyddiannus.

Yn yr achos hwn, meddai, y parti lwyddiannus oedd y tîm a oedd yn cynrychioli Mr Hackett-Pain a'r Gymdeithas.

Mae gan Mr Ramsay 28 diwrnod i wneud y taliad o oddeutu £25,000. Roedd costau Nick Ramsay ei hun bron yn £15,000. Ni roddwyd caniatâd i apelio.

Dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas Geidwadol Mynwy: "Rydyn ni wrth ein bodd â'r dyfarniad gan y barnwr heddiw. Tynnodd Mr Ramsay sylwedd yr achos yn ôl cyn iddo ddechrau ac fe ddyfarnwyd costau o'n plaid.

"Rydyn ni'n gobeithio nawr bod Mr Ramsay yn cydnabod hawl y gymdeithas hon i ymddwyn mewn modd democrataidd."

Dywedodd AS Mynwy yn dilyn y gwrandawiad: "Rwyf wedi gwasanaethu'r etholaeth hon ers 21 mlynedd, bron yn 22. Rwy'n ddiolchgar iawn i wirfoddolwyr Cymdeithas Geidwadol Mynwy am eu gwaith y maent wedi'i wneud wrth fy ngalluogi i ddal y swydd hon.

"Os oeddent wedi eu dadrithio â mi mewn unrhyw ffordd, byddwn bob amser eisiau siarad â nhw a sicrhau fy mod ar gael i drafod eu pryderon.

"Fyddwn i byth eisiau mynd at gyfreithwyr a cheisio dal aelodau'r gymdeithas yn bersonol atebol am fy nghostau cyfreithiol. Dwi ddim yn gwneud sylwadau ar yr hyn y gallai pobl eraill fod wedi'i wneud."

Dau achos cyfreithiol

Dyma'r ail achos cyfreithiol i Mr Ramsay ei gychwyn eleni, ar ôl i'r gwleidydd fynd ag arweinydd Ceidwadol Senedd Cymru, Paul Davies, i'r llys am ei atal o grŵp Torïaidd y Senedd.

Cafodd Aelod Senedd Mynwy ei wahardd o'i blaid a'i grŵp ar ôl iddo gael ei arestio ar Ddydd Calan. Cafodd ei ryddhau yn ddi-gyhuddiad ddeuddydd yn ddiweddarach.

Gorfodwyd Mr Davies i ganiatáu i'r AS ddychwelyd i grŵp y Ceidwadwyr, ar ôl dyfarniad yn yr Uchel Lys. Codwyd ei waharddiad o'r blaid yn ddiweddarach yn 2020.

Mae'n debyg y bydd swyddogion o'r Blaid Geidwadol yn ganolog yn rhan o gynnal y cyfarfod ddydd Llun, ac yn derbyn pleidleisiau.

Fodd bynnag, ni fyddai pleidlais aelodau'r gangen yn achosi ei ddad-ddewis, ac os yw'r aelodau'n cytuno gyda sail y ddeiseb i ddad-ddethol Mr Ramsay, byddai angen trafodaethau pellach er mwyn i'r broses honno ddigwydd.