Y Gynghrair Genedlaethol: Wrecsam 2-0 Weymouth
- Cyhoeddwyd
Symudodd Wrecsam i fyny i'r pedwerydd safle yn y Gynghrair Genedlaethol wrth i goliau ail hanner gan Theo Vassell a Jordan Ponticelli sicrhau buddugoliaeth dros Weymouth.
Aeth Josh McQuoid yn agos i Weymouth mewn hanner cyntaf difyr ond arbedwyd ei beniad gan Christian Dibble.
Tarodd Dior Angus y trawst cyn i beniad Vassell o gornel Jamie Reckord roi Wrecsam ar y blaen.
Seliodd yr eilydd Ponticelli fuddugoliaeth i dîm Dean Keates gyda'i gôl gyntaf o'r tymor.