Pro14: Dreigiau 22-26 Ulster

  • Cyhoeddwyd
Roedd Jamie Roberts yn ôl yn chwarae yn Stadiwm Principality, ond du yr oedd yn ei wisgo'r tro hwnFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Jamie Roberts (dde) yn ôl yn chwarae yn Stadiwm Principality

Llwyddodd Ulster i sicrhau buddugoliaeth o 26-22 dros y Dreigiau yn Stadiwm Principality yn y Pro14 nos Sadwrn.

Mae'n golygu fod y Gwyddelod wedi ennill 13 o 15 gêm y tymor hwn, a hynny er gwaethaf ymdrech hwyr gan y Dreigiau.

Croesodd y canolwr Stewart Moore ddwywaith tra bod Alby Mathewson a John Andrew hefyd wedi croesi.

Ychwanegodd seren y gêm Michael Lowry dri throsiad i'r ymwelwyr.

Sgoriodd Ollie Griffiths, Rio Dyer a Jonah Holmes geisiau i'r tîm cartref, ond roedd hynny ychydig yn rhy hwyr i effeithio ar y canlyniad.

Dreigiau: Josh Lewis; Jonah Holmes, Aneurin Owen, Jamie Roberts, Rio Dyer; Sam Davies, Rhodri Williams (capt); Brok Harris, Richard Hibbard, Lloyd Fairbrother, Joe Davies, Joe Maksymiw, Harrison Keddie, Ben Fry, Ollie Griffiths.

Eilyddion: Rhys Lawrence, Josh Reynolds, Aaron Jarvis, Matthew Screech, Ben Carter, Dan Baker, Gonzalo Bertranou, Nick Tompkins.

Ulster: Jacob Stockdale; Craig Gilroy, Stewart Moore, Stuart McCloskey, Rob Lyttle; Michael Lowry, Alby Mathewson; Eric O'Sullivan, John Andrew, Ross Kane, Alan O'Connor (capt), Kieran Treadwell, David McCann, Sean Reidy, Nick Timoney.

Eilyddion: Brad Roberts, Callum Reid, Gareth Milasinovich, Cormac Izuchukwu, Matty Rea, David Shanahan, Ian Madigan, Ethan McIlroy.

Pynciau cysylltiedig