Pryder am nifer cynyddol o eifr yn mentro i Landudno
- Cyhoeddwyd
Mae yna bryder bod geifr gwyn enwog Pen y Gogarth wedi dod yn fwy hyderus yn ystod y pandemig, yn achosi dinistr i erddi a chaeau chwarae.
Mae'r geifr wedi bod yn mentro ymhellach i mewn i dre glan môr Llandudno gan fod yr ardal wedi bod yn dawelach dros y cyfnod clo.
Un pryder yw y gallai'r geifr gael eu hanafu gan geir wrth i draffig gynyddu dros yr wythnosau nesaf.
Mae eu niferoedd hefyd yn cynyddu oherwydd nad oedd modd rhoi brechiad atal cenhedlu iddyn nhw'r llynedd oherwydd y pandemig.
Dywedodd y cynghorydd Louise Emery, sy'n cynrychioli ardal Pen y Gogarth ar Gyngor Conwy wrth Cymru Fyw: "Mae'n ddigwyddiad rheolaidd yn y gwanwyn gweld y geifr yn dod i lawr i edrych am fwyd ond eleni mae 'na ddau beth wedi digwydd sef yn gyntaf, bod 'na gryn nifer ohonyn nhw oherwydd bod ni wedi methu rhoi brechiad atal cenhedlu iddyn nhw'r llynedd oherwydd Covid.
"Yn ail ma' nhw i weld yn crwydro i rannau o'r dref lle doedden nhw ddim yn arfer mynd iddyn nhw.
"Mae'n bryder gyda'r nos efo'r ffyrdd yn dawel achos gall gyrrwr ddod rownd cornel i wynebu wyth neu naw gafr ar y ffordd."
Yn yr wythnosau diwethaf mae geifr wedi eu gweld yn ardal Craig y Don, rhyw ddwy filltir o Ben y Gogarth.
Maen nhw'n achosi difrod mewn gerddi a chaeau chwarae hefyd.
Mae coed Ysgol San Siôr yn Llandudno yn darged blasus a chyson i'r geifr.
Dywedodd y pennaeth Ian Keith Jones wrth Cymru Fyw: "'Sa ti ddim yn credu'r peth, 'naethon ni brynu dwy goeden eucalyptus rhyw chwech i saith troedfedd o uchder… 'naethon ni blannu nhw bore dydd Sul… ddoes i'r ysgol fore Llun a dyma be' weles i, roedden nhw wedi cael eu dinistrio yn llwyr".
"Bore dydd Llun nes i yrru rhyw hanner dwsin o eifr o gae'r ysgol. 'De ni'n falch bod 'na eifr yn Llandudno… ond dwi'n teimlo bod 'na ormod ohonyn nhw."
Dywedodd Sally Pidcock, Warden ar Ben y Gogarth ei bod hi'n obeithiol yr aiff y geifr crwydrol yn ôl i'w cartref arferol ar Ben y Gogarth yn y diwedd.
"Y flwyddyn hon, mae'r geifr wedi dod yn fwy hyderus gan fod llai o bobl o gwmpas," meddai.
"Mae hynny'n peri bach mwy o bryder oherwydd gall fod yn fwy cymhleth iddyn nhw ffeindio'u ffordd nôl."
Mae hi a'i thîm yn gobeithio cyfri'r geifr a rhoi brechiad atal cenhedlu iddyn nhw os bydd amgylchiadau yn caniatáu.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Conwy ei bod nhw'n cadw golwg ar y sefyllfa.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Ebrill 2018