Oes gafr eto ar iard Ysgol San Siôr yn Llandudno?

  • Cyhoeddwyd
Geifr San Sior
Disgrifiad o’r llun,

Erbyn bore dydd Llun, roedd geifr i'w gweld yng ngerddi cartrefi a busnesau gerllaw'r ysgol hefyd

Mae rhan o safle ysgol gynradd yn Llandudno ar gau am fod geifr wedi meddiannu'r tir.

Mae Ysgol San Siôr wedi'i lleoli ar waelod Y Gogarth - man lle mae geifr Kashmiraidd wedi bod yn byw ers Oes Fictoria.

Ond bellach mae rhai o'r geifr wedi crwydro ac mae ofnau eu bod wedi gadael trogod (ticks) ar gae'r ysgol.

Mae Cyngor Conwy yn dweud bod praidd eraill o eifr wedi'u gyrru oddi yno.

Yn ystod y dyddiau diwethaf mae'r geifr wedi bod yn dod i Ysgol San Siôr, gan fwyta'r coed ffrwythau y mae'r plant wedi'u plannu a gadael gadael baw ar y safle.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd pennaeth Ysgol San Siôr, Ian Keith Jones, fod y plant wedi eu siomi wrth weld y difrod

Dywedodd prifathro'r ysgol Ian Keith Jones: "Fy swydd gyntaf ar ôl cyrraedd yr ysgol bob bore yw rhedeg ar ôl y geifr ar dir yr ysgol.

"Ry'n wedi cael sawl plentyn yn dod i'r swyddfa yn dweud eu bod wedi pigo trogod ar gae'r ysgol. Mae hyn yn gryn bryder gan y gall y trogod achosi problemau iechyd.

"Ry'n yn ysgol sy'n gyfeillgar i'r amgylchedd ac rydyn yn dysgu plant am bwysigrwydd byd natur. Ond mae'r geifr yn achosi gormod o broblemau.

"Mae'r plant wedi bod yn tyfu coed ffrwythau ac fe gawsont eu siomi pan welont bod y coed wedi'u difrodi gan y geifr."

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Cyngor Conwy mae'r geifr wedi eu hel o'r Gogarth gan eifr gwrywaidd eraill am bod yna ormod o eifr

Dulliau atal cenhedlu

Mae Cyngor Conwy yn dweud bod geifr Y Gogarth yn anifeiliaid gwyllt ac er bod y cyngor yn rheoli'r parc lle maent yn byw nid yw'r cyngor yn uniongyrchol gyfrifol amdanynt.

Ychwanegodd y cyngor bod y geifr ar dir yr ysgol gan eu bod wedi'u hel o'r Gogarth gan eifr gwrywaidd eraill, a hynny oherwydd bod yna ormod o eifr.

Dywed y cyngor eu bod wedi bod yn ymdrechu i ostwng nifer y praidd drwy eu symud i fan arall a'u bod hefyd wedi bod yn arbrofi gyda dulliau atal cenhedlu.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Ysgol San Sior wedi'i lleoli ar waelod Y Gogarth, lle mae geifr wedi bod yn byw ers canrifoedd