Y Cymro sy’n ceisio ‘deall y bydysawd’ yn CERN

  • Cyhoeddwyd
Rhodri JonesFfynhonnell y llun, Ruth Abrahams
Disgrifiad o’r llun,

Rhodri Jones wrth ei waith yn CERN

Gwyddonydd o Gaerfyrddin, Dr Rhodri Jones, yw pennaeth newydd yr Adran Belydrau yn CERN, y Sefydliad Ewropeaidd ar gyfer Ymchwil Niwclear draw yn y Swistir.

Mae ganddo gyfrifoldeb dros gannoedd o weithwyr, peiriannau sydd yn gilomedrau o hyd a gronynnau sy'n teithio bron ar gyflymder golau.

Ar raglen Dros Ginio ar BBC Radio Cymru, Jennifer Jones fu'n holi beth yn union maen nhw'n ceisio ei ddysgu yn CERN.

"Mae'r nod ei hunan bach yn uchelgeisiol," meddai Rhodri, "achos deall y bydysawd yw'r nod.

"Beth mae hwnna'n ei feddwl yw edrych i weld beth mae mater wedi cael ei greu mas o, a trio egluro rhai o'r pethau ni'n gweld yn ein byd o'n hamgylch ni.

"Dim ond 4% o'r mater 'yn ni'n gallu deall, a dweud y gwir. Mae gweddill y mater yn ein bydysawd ni yn egni tywyll neu'n fater tywyll - a ni'n galw fe'n dywyll achos bod ni ddim yn siŵr iawn beth yw e."

Yn ffodus i Rhodri a'i gydweithwyr draw ar y ffin rhwng Swistir a Ffrainc, mae ganddyn nhw gymorth peiriant mwyaf y byd i geisio dod o hyd i'r atebion i'w cwestiynau, sef y Large Hadron Collider.

Disgrifiad,

Rhodri Jones yn trafod ei waith yn CERN ar Dros Ginio

Dyma gyflymydd gronynnol (particle accelerator) anferthol, sy'n cael ei gadw mewn twnnel 27km o hyd, 100m o dan y ddaear.

"Mae'r pelydrau (particle beams) yn mynd rownd y twnnel hyn 11,000 o weithiau yr eiliad," eglura Rhodri, "achos maen nhw'n teithio bron ar gyflymder golau. Dwy belydr sydd gyda ni - un sy'n mynd rownd un ffordd, ac un y ffordd arall.

"Mewn pedwar man, 'yn ni'n gwrthdaro nhw yn erbyn ei gilydd, a mas o'r ynni sy'n cael ei greu fel'na, ni'n edrych wedyn i weld yn union beth mae'r gronynnau hyn wedi cael eu 'neud mas o."

Dylanwad Prifysgol Abertawe

Ym Mhrifysgol Abertawe yr astudiodd Rhodri, ac mae yna berthynas glos rhwng y brifysgol a CERN, meddai, gyda nifer o raddedigion Abertawe yn symud i weithio draw yn CERN, gan gynnwys Lyn Evans, y gŵr o Aberdâr a oedd yn arweinydd prosiect y Large Hadron Collider.

Disgrifiad o’r llun,

Dau o'r Cymry aeth o Brifysgol Abertawe i CERN - Rhodri Jones a Lyn Evans

Ond dyw hynny ddim i'w ddweud fod Rhodri wedi arbenigo yn y maes y mae ynddi pan oedd yn astudio ffiseg yn Abertawe, meddai.

"Mewn lasers 'nes i'n noethuriaeth - felly do'n i ddim yn gwybod dim byd am gyflymyddion ar y pryd. Nes i symud draw fan hyn wedyn yn 1996 i wneud post-doc, i wneud ymchwil mewn sut i adeiladu y Large Hadron Collider.

"Ac o'dd hi'n anodd i ffeindio mas amdanyn achos dim ond o lyfre o'n i'n gallu darllen amdanyn nhw ar y pryd, doedd dim gwe fyd-eang i'w gael.

"Fi'n cofio mynd mas ar yr awyren, a'n gorfod darllen lan i weld sut yn union oedd gwrthdaro'n digwydd yn un o'r cyflymyddion hyn cyn cael y cyfweliad i allu dod 'ma."

Prosiectau uchelgeisiol

Chwarter canrif yn ddiweddarach, a Rhodri sydd yn gyfrifol am adran o 600 o staff sydd yn rhedeg holl gyflymyddion CERN, sydd yn cynnwys y Large Hadron Collider a nifer o rai llai.

Er mai 2,500 o staff llawn amser sy'n gweithio i CERN, ar unrhyw adeg gall hyd at 10,000 o bobl fod yn gweithio ar y safle, yn cynnal arbrofion gwahanol ar y pelydrau sydd yn cael eu creu gan y peiriannau enfawr.

Y broblem sydd wedi bod yn y flwyddyn ddiwethaf, yn ôl Rhodri, yw fod tramorwyr wedi methu dod draw i CERN i gynnal yr arbrofion, oherwydd cyfyngiadau COVID.

Ni'n edrych ar beiriannau sydd yn mynd i fod lan i 100km o seis."

Gyda'r gobaith y bydd cyfyngiadau yn cael eu codi yn fuan, mae Rhodri yn egluro mai'r her nesaf yw i gael y Large Hadron Collider yn gweithio eto, ynghyd â phrosiect uchelgeisiol arall sydd ar y gweill.

"Mae e fod i switsho nôl 'mlaen ddechrau flwyddyn nesa' am dair blynedd o waith. Ni'n cau lawr wedyn i wneud gwaith i wneud y peiriant yn fwy pwerus, hyd yn oed, wedyn cario 'mlaen o fan 'ny.

"Ac yn y dyfodol pellach, ni'n edrych ar beiriannau sydd yn mynd i fod lan i 100km o seis - hwnna yw'r prosiect nesa, sef edrych ar sut i wneud peiriant o'r fath faint!

"Mae'n anodd iawn meddwl am rywle gwell i weithio na CERN, os ti yn y maes hyn."

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig