Covid Caergybi: 'Pryder sylweddol' am gynnydd achosion

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Disgrifiad,

Mae "un farwolaeth yn un yn ormod", meddai'r arweinydd Llinos Medi

Mae 'na "bryder sylweddol" am "nifer cynyddol" o achosion o Covid-19 yn ardal Caergybi, Ynys Môn, meddai'r cyngor sir.

O 174 achos positif o'r coronafeirws yn y sir y mis hwn, mae 54% ohonynt wedi bod yn ardal Caergybi, meddai'r awdurdod.

Yn yr wythnos ddiwethaf mae 37 achos positif wedi eu cofnodi yn y dref, ac mae cyfradd yr achosion yn 345.2 fesul 100,000 o'r boblogaeth dros y cyfnod.

Y ffigwr cyfartalog dros Gymru ydy 40 i'r un cyfnod.

Ynys Môn sydd â'r ail gyfradd uchaf o achosion fesul poblogaeth yn ôl y ffigyrau diweddaraf, wrth i lefelau'r feirws gwympo yn y rhan fwyaf o Gymru.

Er bod rhai achosion yn gysylltiedig â chlwstwr mewn ysbyty yn ddiweddar, dywedodd y cyngor bod "achosion o drosglwyddo'r haint mewn cartrefi, rhwng cartrefi ac mewn mannau gwaith... yn peri pryder mawr".

Dywedodd y cyngor bod tîm aml-asiantaeth yn ceisio atal lledaeniad, "a gallai hyn gynnwys cau ysgolion eto yn ogystal â chyfnod clo lleol".

Mae pobl yr ardal yn cael eu cynghori i:

  • Hunanynysu os yn cael symptomau Covid-19 a threfnu prawf - mae uned brofi dros dro ar Gilgant Stanley yn y dref;

  • Rhannu gwybodaeth berthnasol i'r gwasanaeth Profi ac Olrhain;

  • Dilyn canllawiau ar beidio ymweld â thai eraill a gweithio adref os yn bosib.

Ffynhonnell y llun, Cyngor Môn
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y cyngor y byddai'r sefyllfa yn cael ei drafod gyda'r llywodraeth yn y dyddiau nesaf

"Mae'r sefyllfa yng Nghaergybi a'r cynnydd diweddar mewn achosion yn hynod o bryderus", meddai Dylan Williams, Dirprwy Brif Weithredwr Cyngor Môn.

"Mae'n rhaid i ni gyd chwarae ein rhan yn awr drwy ddilyn y canllawiau hollbwysig - cadw pellter cymdeithasol, gwisgo mwgwd pan fod angen i ni wneud hynny, a pheidio â chymysgu â theulu a ffrindiau."

Ychwanegodd y byddai'r sefyllfa yng Nghaergybi yn cael "lle amlwg mewn unrhyw drafodaethau" gyda'r llywodraeth dros y dyddiau nesaf.

'Edrych ar yr holl opsiynau'

Dywedodd arweinydd Cyngor Ynys Môn, Llinos Medi, bod mesurau i reoli'r achosion yn cael eu hystyried.

"Mae'r trafodaethau wedi dechrau hefo ysgolion yr ardal i weld be' 'di'r posibiliadau", meddai ar Dros Frecwast.

"Oes 'na gyfnod clo arbennig yn mynd o gwmpas Caergybi - da ni'n edrych ar yr holl opsiynau."

Er hynny, dywedodd bod rhaid ystyried "pa mor realistig ydi eu gweithredu nhw achos da ni'n ddibynnol ar bobl yn ymateb i'r gofynion a chydymffurfio".

Dywedodd y Gweinidog Iechyd mai'r her yw "deall yn union beth sy'n digwydd", a bod angen cydweithio gan asiantaethau er mwyn "gwneud penderfyniad wedi ei seilio ar risg ar agor ysgolion".

Dywedodd Vaughan Gething na fyddai "byth" yn diystyru camau i ddiogelu'r cyhoedd, ond mai cadw ysgolion ar agor ydy'r flaenoriaeth.

"Rydyn ni'n gwybod mai plant a phobl ifanc sydd lleia' tebygol o ddioddef, felly'n aml nid ysgolion ydy'r peth sy'n gyrru'r cyfraddau coronafeirws", meddai.

"Bron bob tro cysylltiad dan do rhwng oedolion ydy'r ffactor mwyaf."

Delio yn lleol

Ar BBC Radio Wales, dywedodd prif swyddog meddygol Cymru bod "newidiadau bychain mewn niferoedd yn gallu achosi newidiadau mawr mewn cyfraddau" mewn ardaloedd â phoblogaethau isel.

Ond ychwanegodd Frank Atherton bod y neges yn dal i fod yr un fath wrth i fwy o frechlynnau gael eu rhoi - "mae'n rhaid i ni fod yn ofalus fel gwlad, yn enwedig drwy osgoi cymysgu rhwng aelwydydd".

Dywedodd bod y profiad o gyfnodau clo lleol y llynedd "ddim yn galonogol iawn" a bod un cynllun i Gymru yn gweithio'n well, ond dywedodd bod modd "delio gyda chlystyrau lleol yn lleol".