Covid-19: Tair marwolaeth a 190 o achosion newydd

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
BrechuFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae dros 1.3m o bobl wedi derbyn eu dos cyntaf o'r brechlyn erbyn hyn, a 389,000 wedi cael y cwrs llawn

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi bod tair marwolaeth yn gysylltiedig â Covid-19 wedi eu cofnodi yn y 24 awr ddiwethaf.

Cafodd 190 o achosion newydd o'r haint eu cofnodi hefyd yn yr un cyfnod.

Daw hyn â nifer yr achosion yng Nghymru ers dechrau'r pandemig i 208,694, a'r marwolaethau i 5,498, yn ôl y system yma o gofnodi.

Mae cyfradd yr achosion ar gyfer 100,000 o bobl dros saith diwrnod wedi gostwng o 39.1 i 38.5.

Mae 1,341,620 o bobl wedi derbyn eu dos cyntaf o'r brechlyn Covid-19 erbyn hyn, a 389,663 wedi cael y cwrs llawn.

Merthyr Tudful yw'r awdurdod lleol sy'n parhau i fod â'r gyfradd achosion saith diwrnod uchaf, gyda 134.3 achos positif fesul 100,000 o'r boblogaeth.

Ynys Môn sydd wedyn gyda 91.4, yna Blaenau Gwent gyda 70.1, a Sir Y Fflint gyda 63.4.

O'r achosion newydd, roedd 30 yn Abertawe, 22 yng Nghaerdydd, 18 yn Ynys Môn, 15 yng Nghastell-nedd Port Talbot ac 11 yng Ngwynedd.