BBC i 'wreiddio gwasanaethau o fewn cymunedau'

  • Cyhoeddwyd
Craith/Hidden
Disgrifiad o’r llun,

Mae Craith/Hidden, sydd wedi ei ffilmio yng Nghymru, wedi bod yn un o gyfresi mwyaf llwyddiannus y BBC yn ddiweddar

Bydd swyddi a chynyrchiadau'n cael eu symud gan y BBC o Lundain i Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon dros y chwe blynedd nesaf fel rhan o gynllun y gorfforaeth i "wreiddio ei gwasanaethau a'i straeon o fewn cymunedau".

Fel rhan o'r cynllun, a gafodd ei amlinellu i staff fore Iau gan y Cyfarwyddwr Cyffredinol, Tim Davie, bydd Cymru yn dod yn ganolfan ragoriaeth ar gyfer newyddiaduraeth Hinsawdd a Gwyddoniaeth ar draws y BBC, a bydd rhaglenni Newsnight ar BBC Two yn cael eu cyflwyno o Gaerdydd, Belfast, Glasgow a Manceinion drwy gydol y flwyddyn.

Bydd rôl gomisiynu newydd yng Nghymru yn cael ei chreu wedi i'r BBC ddatgelu y bydd y rhan fwyaf o'i chynyrchiadau teledu rhwydwaith yn cael eu cynhyrchu y tu allan i Lundain - o leiaf 60% erbyn 2027.

Y bwriad ydy y bydd hynny'n arwain at ddyblu nifer y cyd-gomisiynau o Gymru sy'n ymddangos ar sianeli ar draws y DU, yn dilyn llwyddiant cyfresi fel Keeping Faith/Un Bore Mercher, Hidden/Craith a Hinterland/Y Gwyll.

Bydd y ffordd mae pobl yn derbyn eu gwasanaethau ar-lein BBC News yn newid hefyd, gyda gwasanaeth ar-lein BBC News yn y DU yn darparu gwasanaeth sydd wedi'i bersonoli.

Yn ogystal bydd rhwydwaith newydd o ohebwyr cymunedol digidol ar draws y DU yn cael ei greu "i ddod yn agosach at rai o'r cymunedau sy'n cael eu tan-gynrychioli fwyaf ac i gryfhau ein darpariaeth newyddion ar-lein yn rhanbarthol".

Disgrifiad o’r llun,

Bydd uned newyddiaduraeth Hinsawdd a Gwyddoniaeth ar draws y BBC nawr yn cael ei lleoli ym mhencadlys BBC Cymru yng Nghaerdydd

Wrth gyhoeddi'r cynlluniau dywedodd Rhodri Talfan Davies, Cyfarwyddwr y Cenhedloedd a Chyfarwyddwr BBC Cymru: "Mae'r cynllun hwn yn ymwneud â dod â'r BBC yn gyfan yn agosach at gynulleidfaoedd - yng Nghymru ac ar draws y DU.

"Mae'n drawsnewidiad o'r top i'r gwaelod - ac yn ymrwymiad gan bob rhan o'r BBC i wreiddio ein gwasanaethau a'n straeon ym mywydau ein cynulleidfaoedd.

"Mae'r ymrwymiad i wario £700m tu allan i Lundain yn mynd i gynnau cymaint o gyfleoedd newydd i greu swyddi a datblygu sgiliau ar draws y sector gynhyrchu yng Nghymru.

"Rwy'n falch tu hwnt fod Cymru am fod yn ganolfan o ragoriaeth ar gyfer newyddiaduraeth hinsawdd a gwyddoniaeth. Does dim stori bwysicach - a dwi wrth fy modd fod Cymru yn mynd i gael y cyfle i arwain y ffordd."

Ymhlith y cyhoeddiadau eraill:

  • Mwy o bersonoli ar-lein er mwyn sicrhau bod cynnwys Cymraeg yn amlycach ac yn haws cael mynediad ato

  • O leiaf 100 o rifynnau o raglen Radio 4 Today yn cael eu cyd-gyflwyno y tu allan i Lundain bob blwyddyn.

  • 100 o swyddi yn cael eu creu yn nhimau datblygu cynnyrch ac ar-lein BBC News y tu hwnt i Lundain.

  • 50% o wariant Radio rhwydwaith y BBC yn cael ei fuddsoddi y tu allan i Lundain - i fyny o tua 40% ar hyn o bryd. Yn ogystal â symud y tîm gwyddoniaeth, bydd cyfresi amser-brig allweddol ar Radio 1, 1Xtra, Radio 2 a Radio 4 yn symud o Lundain i'w cynhyrchu ar draws y DU.

  • Gweithio gyda S4C i 'foderneiddio ein partneriaeth hir-sefydlog er mwyn adlewyrchu'r tirlun digidol'.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y ddrama boblogaidd His Dark Materials ei chynhyrchu yng Nghaerdydd

Dadansoddiad gohebydd BBC Cymru, Teleri Glyn Jones:

Mae'r cyhoeddiad yma yn newid diwylliannol sylweddol i'r BBC.

Hyd yma mae'r gwasanaethau cenedlaethol (Cymru, yr Alban, Gogledd Iwerddon) a'r gwasanaethau rhanbarthol yn Lloegr wedi gweithio ar wahân, bron fel lloeren, i'r gwasanaethau rhwydwaith sy'n bennaf wedi cael eu lleoli yn Llundain.

Dyma newid pwyslais sy'n datganoli grym a budd economaidd y BBC tu hwnt i'r M25.

Ond nid dim ond swyddi ac arian sy'n symud, mae'r gorfforaeth yn gobeithio y bydd y newidiadau yma yn golygu bod cynnwys y BBC yn adlewyrchu'r amrywiaeth o straeon a safbwyntiau sydd i'w cael o amgylch y wlad yn well.

Ond mewn gwirionedd, roedd na bwysau o sawl cyfeiriad ar y BBC i newid. Mae'r pandemig wedi taflu goleuni newydd ar ddatganoli, a'r angen i adlewyrchu'r gwahaniaethau gwleidyddol ym Mhrydain.

Ac mae pwysau gwleidyddol wedi bod hefyd - gyda rhai o fewn Llywodraethy DU yn cwestiynu dyfodol model ariannu y gorfforaeth yn gyhoeddus.

Y gobaith ydy bod y newidiadau pellgyrhaeddol yma yn mynd yn ddigon pell i dawelu beirniaid y BBC.