Galw am ddatganoli mwy o bwerau darlledu i Gymru

  • Cyhoeddwyd
Bethan Sayed AS
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Bethan Sayed AS nad oes digon o raglenni sy'n portreadu bywydau pobl Cymru

Mae'n rhaid i Gymru gael mwy o lais o ran sut mae darlledu yn cael ei ariannu a'i reoleiddio, yn ôl un o bwyllgorau'r Senedd.

Daeth ymchwiliad gan Bwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu i'r casgliad fod hynny'n bwysig os ydy Cymru am "ddatblygu cyfryngau sy'n gwasanaethu ac yn cynrychioli'r wlad yn iawn".

Bu'r ymchwiliad yn ystyried sut i gryfhau llais Cymru a sut y gallai Llywodraeth Cymru gefnogi'r sector newyddiaduraeth yn well.

Bydd yr adroddiad yn cael ei ystyried gan Lywodraeth Cymru, a bydd trafodaeth mewn cyfarfod llawn ar 24 Mawrth.

Roedd y pwyllgor yn edrych ar ddarlledwyr gwasanaeth cyhoeddus - BBC Cymru, S4C ac ITV Cymru - yn ogystal â thrwyddedau radio masnachol.

Roedd aelodau'r pwyllgor yn unfrydol yn eu casgliad bod yn rhaid i'r Senedd a Llywodraeth Cymru ennill pwerau pellach dros ddarlledu.

Roedd y farn ar faint y datganoli pellach hwnnw yn amrywio - gyda phenderfyniad y dylai'r adroddiad ddarparu man cychwyn pendant ar gyfer rhywfaint o ddatganoli cyfrifoldebau.

Datganoli S4C i Gymru

Dywed yr adroddiad y byddai datganoli mwy o bwerau i Gymru yn "gwella darpariaeth y cyfryngau yng Nghymru yn sylweddol".

Dywed cadeirydd Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu y Senedd, Bethan Sayed AS, fod y cynnwys sydd ar gael i Gymru ar y cyfryngau ar hyn o bryd yn "annigonol".

"Mae twf y cewri ffrydio byd-eang wedi dod â ffyniant i gynyrchiadau a wnaed yng Nghymru, ond nid yw wedi gwneud llawer i gynyddu rhaglenni sy'n portreadu bywydau pobl Cymru yn benodol," meddai.

Ychwanegodd fod rhai aelodau'r pwyllgor yn ffafrio datganoli pwerau darlledu i'r Senedd yn llawn, ac eraill o blaid pwerau newydd mwy cyfyngedig mewn meysydd penodol.

Ond mae'r pwyllgor am weld S4C a "phob mater arall sy'n ymwneud â darlledu Cymraeg er gwasanaeth cyhoeddus" yn cael eu datganoli i Gymru.

"Y teimlad a gawsom yn sgil y dystiolaeth yw ei bod ond yn iawn fod penderfyniadau ynghylch y cyfryngau a darlledu i bobl yng Nghymru yn cael eu gwneud yma yng Nghymru," meddai Ms Sayed.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe lansiodd The National yng Nghymru ar 1 Mawrth

Mae'r adroddiad yn nodi 10 argymhelliad i gyd, ac yn annog y Senedd a Llywodraeth Cymru "yn y dyfodol, i fynd i'r afael â'r mater hwn".

Ymysg yr argymhellion, dywed y pwyllgor y dylai Llywodraeth Cymru fynd ati "ar unwaith i sefydlu cronfa ganolog barhaus i gefnogi newyddiaduraeth newyddion sy'n atebol ac sy'n cael ei darparu o hyd braich er mwyn sicrhau didueddrwydd".

'Trobwynt hanesyddol'

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw'r adroddiad yn "drobwynt yn hanes darlledu yng Nghymru".

Dywedodd llefarydd y gymdeithas, Elfed Wyn Jones, bod yr adroddiad yn "rhoi mandad" i'r llywodraeth nesaf, ac felly bod angen rhoi'r grymoedd i gyflawni'r newid.

"Dyma gyfle gwirioneddol inni aeddfedu fel gwlad ddemocrataidd a sicrhau y bydd y Gymraeg yn addasu'n ddigonol i'r oes ddigidol," meddai.

Ar Ddydd Gŵyl Dewi, cafodd gwasanaeth newyddion The National ei lansio yng Nghymru gan addo "llwyfan newyddion cenedlaethol o safon" a fydd yn cael ei gyhoeddi ar-lein yn bennaf.

Y llynedd fe gyhoeddodd S4C y byddan nhw'n lansio gwasanaeth newyddion digidol fydd yn ceisio apelio at gynulleidfa iau.

Fe ddywedodd cyfarwyddwr BBC Cymru wrth y pwyllgor y llynedd ei fod yn "niwtral" am y syniad o ddatganoli grymoedd i Lywodraeth Cymru, gan gwestiynu beth fyddai'n cael ei "drwsio" o wneud hynny.

Nid yw Llywodraeth Cymru na Llywodraeth y DU o blaid datganoli grymoedd darlledu.

Pynciau cysylltiedig