Croeso a phryder wrth i ganolfannau garddio ailagor
- Cyhoeddwyd
"Mi fydd hi mor braf gweld pobl yn dod yma eto - mae hi wedi bod yn gyfnod hir," medd Richard Bramley, perchennog canolfan arddio yn Llandysul yng Ngheredigion.
O ddydd Llun ymlaen bydd canolfan arddio Farmyard Nurseries a chanolfannau garddio eraill yng Nghymru yn cael ailagor - wedi iddyn nhw fod ar gau ers diwedd mis Rhagfyr.
"Rwy'n edrych ymlaen i gael gweld pobl wyneb yn wyneb - yn enwedig y rhai sydd wedi dod yn ffrindiau i ni dros y blynyddoedd," medd Mr Bramley.
Ychwanegodd ei fod yn edrych ymlaen i weld y cwsmeriaid hŷn hefyd gan fod nifer ohonyn nhw wedi bod yn hunan-ynysu am ran helaeth o'r flwyddyn ddiwethaf.
"Rwy'n edrych mlaen i gael pobl yn mentro yma unwaith eto - hyd yn oed os ydyn nhw ond yn dod am sbec i weld be' sydd 'da ni. Rydyn ni hefyd yn agor cwpl o erddi newydd."
Ond nid yw pob perchennog yn dymuno i bawb dyrru i'w canolfannau garddio.
'Ddim yn hapus i agor ein drysau eto'
Mae Wayne Edwards a'i wraig Nia yn berchen ar Greenacre Nursery yn Y Borth ger Aberystwyth.
Fel nifer o ganolfannau eraill, maen nhw wedi bod yn cynnig gwasanaeth clicio a chasglu dros y misoedd diwethaf ac felly ddim mewn brys i ailagor.
"Fi ddim yn hapus ein bod yn agor ein drysau eto... Fuasen ni wedi bod lot hapusach 'sen ni wedi sefyll ar gau dan Ebrill," meddai Mr Edwards wrth siarad â Cymru Fyw.
"Dim ond fi a fy ngwraig sy'n gweithio yn fan hyn a ni ddim wedi cael y vaccine eto."
Dywedodd Mr Edwards ei fod yn poeni y bydd pobl yn dod i ganolfannau garddio wrth iddyn nhw "feddwl am rywle i fynd".
"Ydyn ni am gael lot o bobl yn dod mas yma? Gormod o bobl? Bydd yn rhaid i ni fod yn strict efo faint o geir rydyn ni'n gadael i mewn," meddai.
Ar hyn o bryd, mae Mr Edwards a'i wraig yn bwriadu caniatáu tri char ar y tro er mwyn ceisio cadw pellter cymdeithasol.
'Rhaid agor er lles ein cwsmeriaid'
Perchennog arall sy'n teimlo'n bryderus yw Sam Rainer, sy'n rhedeg Canolfan Arddio Bryncir yng Ngarndolbenmaen.
"Wrth gwrs rydyn ni eisiau agor unwaith eto, ond ar yr un pryd, rydyn ni wedi cael llawer o bobl yn ceisio dod yma yn barod. Dydyn ni ddim eisiau i lwythi o bobl ddechrau tyrru yma," meddai.
Er hyn, mae Ms Rainer yn teimlo bod yn rhaid iddi agor er lles pobl leol a'i chwsmeriaid ffyddlon.
"Mae'n rhaid i ni wneud rhywbeth iddyn nhw," meddai. "Yn amlwg, os dydyn ni ddim, efallai y bydden nhw'n dechrau siopa yn rhywle arall."
Teimlo'n rhwystredig
Yn ogystal â chanolfannau garddio, bydd archfarchnadoedd yn cael gwerthu eitemau nad ydynt yn rhai hanfodol unwaith eto o ddydd Llun ymlaen - gan gynnwys eitemau fel dillad, colur, a chardiau achlysur.
Mae'r mater wedi bod yn un dadleuol gyda perchnogion rhai busnesau'n dweud nad ydyn nhw'n cael eu trin yn deg.
I Julie Edwards, perchennog Joshua Tree a Martha Jones, dwy siop anrhegion ym Mhwllheli, mae'r cyhoeddiad diweddar am lacio cyfyngiadau yn "siomedig" ac yn annheg.
Yn ei siop Martha Jones ar Stryd Fawr Pwllheli, mae Ms Edwards fel arfer yn gwerthu cardiau a balŵns.
Dywed ei bod wedi bod yn hynod anodd gweld siopau eraill yn cael gwerthu'r eitemau yma pan nad yw hi'n cael gwneud.
"Mae'n rhwystredig gweld cannoedd o falŵns yn pasio drws y siop," meddai ond dywed ei bod yn cydnabod mai nod y llywodraeth yw ceisio atal pobl rhag "pori o gwmpas siopau".
Mae disgwyl y bydd holl siopau Cymru yn agor ar 12 Ebrill fel ag yn Lloegr.
Eisoes mae Dirprwy Weinidog yr Economi, Lee Waters, wedi dweud bod hynny wedi bod yn benderfyniad anodd i weinidogion ond yn un ymarferol.
"Gallwn fod wedi aros tair wythnos arall cyn rhoi hawl i archfarchnadoedd werthu popeth ond mae nifer wedi cysylltu gyda ni yn pryderu nad ydynt wedi cael prynu popeth ers misoedd.
"Gan bod archfarchnadoedd eisoes ar agor ac yn ufuddhau i orchmynion diogelwch y teimlad oedd mai dyma'r symudiad â lleiaf o risg ar hyn o bryd," meddai.
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y bydd £150m yn ychwanegol o arian ar gael i fusnesau sydd ar eu colled.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd12 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd11 Mawrth 2021