'Siom' perchnogion busnesau am yr oedi cyn agor
- Cyhoeddwyd
Wrth i Lywodraeth Cymru gyhoeddi y bydd rhai o'r cyfyngiadau yn cael eu codi dros y pythefnos nesaf mae perchnogion rhai busnesau'n dweud nad ydyn nhw'n cael eu trin yn deg o gymharu ag eraill.
Bydd cyrsiau golff, cyfleusterau chwaraeon awyr agored, gan gynnwys cyrtiau pêl-fasged a chyrtiau tennis yn cael yr hawl i ailagor o ddydd Sadwrn ymlaen.
O ddydd Llun ymlaen bydd siopau trin gwallt a siopau barbwr yn ailagor ar gyfer apwyntiadau, ac 22 Mawrth ymlaen bydd manwerthu nad yw'n hanfodol a chanolfannau garddio yn dechrau ailagor yn raddol.
Ond ni fydd siopau lle mae gwasanaethau cyswllt agos yn cael agor tan 12 Ebrill - yr un dyddiad ag yn Lloegr.
Mae Llywodraeth Cymru wedi addo y bydd £150m ychwanegol ar gael i gefnogi'r busnesau hynny sydd ddim yn cael ailagor tan ddiwedd Mawrth.
"Jyst ddim yn deg o gwbl," meddai Paula Leslie, perchennog Y Bocs Tegannau ym Mhorthmadog ar raglen Dros Frecwast ar BBC Radio Cymru fore Gwener.
"Bydden ni yn dweud - a dwi wedi siarad gyda lot o fusnesau yn y dre - chi yn saffach mewn siop fach.
"Ni'n gallu rheoli faint o bobl sydd yn dod i fewn - un i fewn un allan, r'un peth y bwtsiwr a'r siop fara yn neud - da ni yn gallu rheoli fe yn well na beth mae'r archfarchnad mawr yn gallu neud.
"Mae'r archfarchnad yn neud miliynau o just pres bwyd - heb sôn am beth mae nhw yn gallu gwerthu yn ychwanegol - dyw e jyst ddim yn deg i siopau bach."
"Di'o ddim jyst amdan yr arian - mae'r cymuned angen ein siopau ni. Dwi yn cael dwn i'm faint yn dweud - 'Pryd ti yn cael ail agor?' Mae'n anodd i fi werthu ar lein, mae pobl ishe gweld [ei gilydd] a chael sgwrs.
"Da ni gyd yn hwb i'r gymuned 'de - ac mae pobl yn colli hynna."
Mewn cyfweliad fore Gwener fe awgrymodd y Prif Weinidog Mark Drakeford y byddai pobl Cymru'n gallu cymryd gwyliau dros y Pasg mewn rhai mathau o lety "os fydd pethau'n parhau i symud yn y cyfeiriad cywir".
Dywedodd Ms Leslie na fydd siopau ar agor i'r ymwelwyr fynd iddyn nhw.
"'Sa hynna wedi bod yn hwb da i'r gymuned - gyda siopau yn agored."
Ychwanegodd: "Da ni wir angen e, dydan, i gadw siopau i fynd. Mae'n ddigon drwg bod digon o bobl wedi bod yn siopa arlein - a rwan mae nhw am yrru nhw i'r archfarchnad."
Y salon 'yn barod'
"O'dd dim rhaid fi edrych ar social media, o'dd cwsmeriaid fi wedi bod yn tecstio fi cyn fi godi biti bod. "
Geiriau Carys Jones Evans, sydd yn trin gwallt yn Nhregaron ac ymhlith y cannoedd o drinwyr gwallt a fu'n gorfod canslo apwyntiadau ar fyr rybudd ym mis Rhagfyr pan gafodd y cyfnod clo ei gyflwyno ar frys.
"Fi'n rili hapus bod hawl da ni ailagor, mae'n rili good - financially a mentally.
"Achos o ni ddim yn gwbod beth oedd yn digwydd - sai wedi cymryd dim bookings tan heddi, de - a mae'r ffon yn mynd yn mad. Mae rhai pobl wedi waito misoedd am gwallt nhw.
"Mae'r salon yn barod, nethon ni yna wythnos hyn, ond chi'n gwbod o ran appointment - chi'n gwbod heddi - mae pawb ishe fe fory, os mae hwnna yn neud sens .
"So ni ddim yn gwbod ble i ddechrau gyda appointments a ble i roi pobl. "
Beth fydd yn newid a phryd?
O ddydd Sadwrn, 13 Mawrth:
'Aros gartref' yn newid i 'Aros yn lleol';
Gall pedwar person o ddwy aelwyd gyfarfod yn yr awyr agored i gymdeithasu (Nid yw plant yn cyfri yn y rhif yna);
Adnoddau chwaraeon awyr agored megis golff, tenis a phêl-fasged yn cael ailagor;
Ymwelwyr unigol a phenodol yn cael mynd i gartrefi gofal.
O ddydd Llun, 15 Mawrth:
Pob plentyn cynradd a rhai uwchradd mewn blynyddoedd cymwysterau yn dychwelyd i'r dosbarth;
Rhyddid i ysgolion ddod â disgyblion blynyddoedd 10 a 12 yn ôl a mwy o fyfyrwyr yn dychwelyd i golegau;
Siopau trin gwallt a barbwr i gael ailagor gydag apwyntiad yn unig.
O ddydd Llun, 22 Mawrth:
Llacio graddol ar werthu nwyddau sydd ddim yn hanfodol mewn archfarchnadoedd;
Canolfannau garddio i ailagor.
O ddydd Sadwrn, 27 Mawrth:
Llety hunangynhwysol yng Nghymru i ailagor os fydd cyfraddau heintio'n parhau yn isel.
O ddydd Llun, 12 Ebrill:
Pob siop arall yn cael ailagor - yr un dyddiad ag yn Lloegr;
Pob disgybl yn dychwelyd i'r ysgol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd11 Mawrth 2021