Gorchymyn adolygiad i farwolaeth dynes a laddwyd gan ei gŵr

  • Cyhoeddwyd
Ruth WilliamsFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Ruth Williams wedi bod yn briod â'i gŵr am bron i 50 mlynedd

Mae Ysgrifennydd Cartref Llywodraeth y DU wedi gorchymyn adolygiad i farwolaeth dynes gafodd ei lladd gan ei gŵr yng Nghwmbrân.

Fis diwethaf cafodd Anthony Williams, 70, ei ddedfrydu i bum mlynedd o garchar wedi iddo gyfaddef dynladdiad Ruth Williams, 67, ym mis Mawrth 2020.

Mewn llythyr at fwrdd gwasanaethau cyhoeddus Torfaen, dywedodd yr Ysgrifennydd Cartref Priti Patel nad oedd hi'n fodlon â'r penderfyniad i beidio cynnal adolygiad marwolaeth yn y cartref - domestic homicide review (DHR).

Mae bwrdd gwasanaethau cyhoeddus Torfaen wedi dweud y bydd nawr yn cynnal adolygiad o'r fath.

Ffynhonnell y llun, Heddlu Gwent
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Anthony Williams nad oedd yn ei iawn bwyll am fod ganddo orbyrder ac iselder

Cafwyd Williams yn ddieuog o lofruddio ei wraig Ruth yn ystod yr achos ym mis Chwefror, ond roedd yn cyfaddef cyhuddiad o ddynladdiad ar y sail nad oedd yn ei iawn bwyll.

Fe wnaeth hynny arwain at apêl gan grŵp o Aelodau Seneddol oedd o'r farn bod dedfryd Williams yn "rhy drugarog", oedd yn galw am adolygiad gan y Twrnai Cyffredinol.

Yn y llythyr gan Ms Patel, sydd wedi'i weld gan BBC Cymru, dywedodd ei bod hi yn bersonol wedi adolygu'r achos a phenderfyniad y bwrdd i beidio â chynnal DHR.

"Dydw i ddim yn fodlon gyda chasgliadau bwrdd gwasanaethau cyhoeddus Cyngor Torfaen nad oes unrhyw wersi i'w dysgu o'r farwolaeth drasig hon," meddai.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Priti Patel nad oedd hi'n fodlon â'r penderfyniad i beidio cynnal adolygiad i'r farwolaeth

Dywedodd Ms Patel bod y bwrdd wedi dod i'r casgliad hynny oherwydd nad oedd y cwpl wedi cael "unrhyw gysylltiad arwyddocaol gydag asiantaethau neu wasanaethau lleol", ond y dylai'r bwrdd ystyried pam nad oedd cysylltiad o'r fath wedi bod.

"Rydych chi'n credu bod marwolaeth Ruth Williams yn ddigwyddiad nad oedd modd ei ragweld, ond dydw i ddim yn derbyn nad oedd unrhyw wersi i'w dysgu yma," meddai.

"Byddai DHR yn helpu datgelu os oedd yna gyfleoedd wedi'u colli a chefnogi eich dealltwriaeth ynglŷn â sut i atal digwyddiadau o'r fath ble mae'n ymddangos nad oes unrhyw gamdriniaeth."

Mae bwrdd gwasanaethau cyhoeddus Torfaen wedi cadarnhau y bydd yn cynnal yr adolygiad yn dilyn gorchymyn yr Ysgrifennydd Cartref.

Pynciau cysylltiedig