Dedfryd dyn am ladd ei wraig 'ddim yn ddigon llym'

  • Cyhoeddwyd
Anthony WilliamsFfynhonnell y llun, Heddlu Gwent
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r ASau'n galw am estyn dedfryd Anthony Williams

Mae grŵp o Aelodau Seneddol wedi codi cwestiynau ynghylch hyd dedfryd o garchar i ddyn o Gwmbrân am ladd ei wraig ar ddechrau cyfnod clo cyntaf y llynedd.

Cafodd Anthony Williams ddedfryd o bum mlynedd dan glo ddydd Iau am ddynladdiad ei wraig, Ruth Williams, wedi i reithgor yn Llys y Goron Abertawe ei gael yn ddieuog o lofruddiaeth.

Mae'r gosb "yn ddiangen o drugarog", yn ôl yr ASau Llafur, sy'n galw ar y Twrnai Gwladol, Suella Braverman, i gyfeirio'r achos at y Llys Apêl.

Maen nhw hefyd yn mynegi pryder bod yr amddiffyn wedi defnyddio iselder Williams, 70, rhag y cyhuddiad mwy difrifol o lofruddiaeth.

Roedd wedi cyfaddef tagu ei wraig 67 oed i farwolaeth yn eu cartref fis Mawrth y llynedd, gan ddweud iddo golli'i iawn bwyll.

Ffynhonnell y llun, Family photo
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Ruth Williams ei thagu i farwolaeth yn ei chartref wedi ffrae gyda'i gŵr

Wrth ei ddedfrydu, dywedodd y Barnwr Paul Thomas bod cyflwr meddyliol y diffynnydd "wedi'i effeithio'n ddifrifol ar y pryd" oherwydd iselder a gorbryder difrifol.

Dywedodd seicolegydd wrth y llys fod gorbryder Williams wedi dwysáu oherwydd y cyfnod clo, a bod hynny wedi amharu ar ei allu i reoli ei hun.

AS Pontypridd Alex Davies-Jones, y Cyfreithiwr Cyffredinol rhwng 2001 a 2005 a'r cyn-Weinidog Cyfiawnder, Harriet Harman, a Jess Phillips yw'r ASau sydd wedi ysgrifennu at y Twrnai Cyffredinol. Mae AS Llafur arall, Dawn Butler hefyd yn cefnogi'r alwad.

'Neges anghywir'

Mae Ms Harman yn beirniadu'r hyn mae'n ei ddisgrifio fel "bwlch" yn y gyfraith wnaeth ganiatáu i fargyfreithiwr Williams ddadlau bod ei iselder yn ei amddiffyn rhag euogfarn o lofruddiaeth.

Mae hynny, meddai "yn rhoi esgus i ddyn sy'n lladd ei wraig" na fyddai'n bosib petai'n lladd cymydog.

"Rydych yn cael disgownt pan mai eich gwraig yw'r dioddefwr, ac yn ei chartref ei hun ble dylai deimlo'n ddiogel," meddai.

Yn ôl Alex Davies-Jones, mae'r ddedfryd yn "rhoi'r neges anghywir".

Dywedodd ei bod "wedi dychryn" o glywed fod Williams "wedi cael dedfryd mor drugarog mewn cyfnod pan mae gymaint yn dioddef straen meddyliol y pandemig".

"Rwy'n poeni y gall y ddedfryd fod yn gatalydd," ychwanegodd, "ac rydym yn mynd i weld mwy o achosion eithafol, gyda throseddwyr yn meddwl bod gyda nhw esgus."

Pynciau cysylltiedig