Ystyried ailagor lletygarwch awyr agored o 22 Ebrill

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
LletygarwchFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Gobaith y llywodraeth ydy ystyried ar 22 Ebrill a oes modd i letygarwch awyr agored ailagor

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y bydd yn ystyried ailagor canolfannau hamdden a lletygarwch awyr agored o 22 Ebrill ymlaen, os ydy achosion Covid-19 yn parhau yn isel.

Mae gobaith y byddai priodasau hefyd yn gallu eu cynnal, yn ogystal ag ymarfer corff yn yr awyr agored a dan do, ac mae'n bosib bydd pobl yn cael ffurfio swigen gyda chartref estynedig unwaith eto.

Mae'r cyhoeddiad yn rhan o Gynllun Rheoli Coronafeirws y llywodraeth ar gyfer llacio cyfyngiadau dros yr wythnosau a misoedd nesaf.

Pwysleisiodd Mark Drakeford eu bod hefyd yn parhau i anelu at gynnig y brechlyn i bob oedolyn yng Nghymru erbyn diwedd Gorffennaf, os ydy cyflenwadau'n caniatáu hynny.

'Mwy o obaith'

"Dyw'r pandemig ddim ar ben," meddai'r Prif Weinidog.

"Mae'r gwanwyn a'r haf yn rhoi mwy o obaith o ryddid i ni, wrth i gyfraddau heintio ostwng a mwy o bobl gael eu brechu.

"Ond mae'n rhaid i ni fod yn ofalus - allwn ni ddim brysio'r broses o lacio cyfyngiadau a pheryglu ymlediad arall o'r feirws."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe all canolfannau hamdden ailagor ddiwedd Ebrill os ydy achosion yn parhau'n isel

Mae'r cynllun diweddaraf i gael ei gyhoeddi yn cadarnhau y bydd rhai siopau anhanfodol a chanolfannau garddio yn cael ailagor o ddydd Llun, 22 Mawrth.

Bydd gweinidogion wedyn yn cadarnhau'r wythnos nesaf a fydd y gorchymyn 'aros yn lleol' yn dod i ben ar 27 Mawrth wrth i'r wlad symud i rybudd Lefel 3, gyda lletygarwch hunanarlwyo a chanolfannau awyr agored hefyd yn cael ailagor.

O 12 Ebrill ymlaen bydd holl ysgolion a cholegau Cymru'n cael ailagor, yn ogystal â siopau, a bydd gwasanaethau cyswllt agos yn cael ailddechrau.

Bydd gwersi gyrru'n cael ailddechrau o 12 Ebrill, a phrofion gyrru'n cael digwydd eto o 22 Ebrill.

Gallai llacio i'r rheolau yn y meysydd canlynol hefyd ddigwydd fel rhan o'r adolygiad ar 22 Ebrill os yw pethau'n parhau i wella:

  • campfeydd, canolfannau hamdden, ac atyniadau awyr agored;

  • lletygarwch awyr agored, gan gynnwys i fwytai a thafarndai;

  • seremonïau a derbyniadau priodasau ac angladdau;

  • canolfannau cymunedol a gweithgareddau wedi'u trefnu (30 o bobl y tu allan, 15 dan do);

  • cartrefi estynedig.

Ychwanegodd Llywodraeth Cymru ei bod yn gobeithio galluogi i wersi gyrru ailddechrau ar 12 Ebrill, a phrofion o 22 Ebrill, sy'n cyd-fynd â'r dyddiadau yn Lloegr.

Daw hynny yn dilyn rhwystredigaeth gan y diwydiant nad oedd dyddiadau wedi'u pennu ar gyfer ailgydio ynddi.

Pryder am wyliau tramor

Bwriad Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yw cynnig brechiad i bawb yn y grwpiau blaenoriaeth erbyn canol Ebrill, a phob oedolyn erbyn diwedd Gorffennaf.

Oherwydd hynny, mae'r cynllun yn dweud y bydd yn rhaid "symud yn ofalus wrth lacio'r cyfyngiadau" nes o leiaf canol Awst, pan fydd y brechlyn wedi cynnig imiwnedd i'r rhan fwyaf o'r boblogaeth.

Fe fyddan nhw hefyd yn cadw golwg ar "effeithiolrwydd y brechlyn ac unrhyw ddatblygiadau eraill all godi", gan gynnwys yn erbyn mathau newydd o coronafeirws.

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Mae Llywodraeth Cymru'n poeni y gallai "hanes ailadrodd ei hun" gyda phobl yn dod â Covid-19 yn ôl o wyliau tramor

Ychwanegodd Llywodraeth Cymru eu bod am weithio gyda Llywodraeth y DU i "gryfhau" mesurau cwarantin ar deithwyr sy'n dod neu'n dychwelyd o wledydd tramor.

"Cafodd ein hymdrechion llwyddiannus i reoli'r feirws yr haf diwethaf ei ddadwneud yn rhannol pan gludwyd y feirws yn ôl o'n gwyliau tramor," meddai'r cynllun.

"Dydyn ni ddim am weld yr un peth yn digwydd gydag amrywiolyn newydd."

Craffu manylach

Wrth ymateb i'r cyhoeddiad dywedodd llefarydd iechyd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth ei bod hi dal "ddim yn glir" beth fydd angen digwydd cyn i'r cyfyngiadau hynny godi.Ailagor lletygarwch awyr agored ddiwedd Ebrill

"Mae'n llinell denau rhwng cynnig gobaith a chodi gobeithion ffug," meddai.

"Ond mae'r ansicrwydd yma a'r diffyg cynllunio ymlaen, hyd yn oed o ychydig wythnosau, yn gwneud pethau'n fwy heriol i'r cyhoedd a busnesau."

Fe wnaeth arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, Andrew RT Davies feirniadu amseru'r cyhoeddiad gan ddweud bod angen i wleidyddion gael y cyfle i graffu'n fanylach ar ddogfen.

"Dwi'n meddwl fydd llawer o bobl yn bryderus am y ffordd mae'r llywodraeth wedi gwneud hyn, tynnu'r data allan a rhoi datganiadau amrywiol i mewn," meddai.

"Dyna pam 'dyn ni wedi bod yn galw am gynllun clir."