Cymru'n disgwyl 250,000 yn llai o ddosau brechlyn

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
AstraZeneca vaccines (file pic)Ffynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y Prif Weinidog byddai colli gymaint o ddosau'n cael rhywfaint o effaith

Mae Cymru'n disgwyl cael 250,000 yn llai o ddosau o'r brechlyn Rhydychen-AstraZeneca yn yr wythnosau nesaf oherwydd oedi i gyflenwadau, yn ôl Mark Drakeford.

Dywedodd y Prif Weinidog ei fod yn gobeithio byddai'r naw grŵp blaenoriaeth yn dal i gael cynnig o frechlyn erbyn canol mis Ebrill.

Ond dywedodd Mr Drakeford wrth siarad â rhaglen Newyddion S4C nad oedd yn gallu sicrhau na fyddai pobl sydd ag apwyntiad yn barod yn cael eu heffeithio.

"Colli chwarter miliwn o ddosau - dydych chi methu gwneud hwnna heb iddo gael rhywfaint o effaith," meddai.

Ychwanegodd y byddai cyflenwadau cymharol fach o'r brechlyn Moderna yn cyrraedd ddechrau mis Ebrill, a'u bod yn edrych ar ffyrdd o ddod â chyflenwadau o'r brechlyn Pfizer ymlaen i lenwi'r bwlch brechlynnau AstraZeneca.

Pan ofynnwyd a fyddai'r oedi yn effeithio ar gynlluniau i lacio cyfyngiadau, dywedodd y Prif Weinidog bod yr amserlen wedi'i seilio'n rhannol ar y rhaglen frechu'n dod â mwy o imiwnedd i'r boblogaeth, ond ei fod yn meddwl bod Cymru dal mewn lle i ddilyn y cynllun sydd wedi ei gyhoeddi'n barod.

Ffynhonnell y llun, Reuters

Ychwanegodd y byddai'n rhaid aros i weld yn hwyrach a ydy amgylchiadau yng nghanol Ebrill yn caniatáu unrhyw lacio pellach o'r cyfyngiadau.

Yn yr wythnos ddiwethaf mae Cymru wedi derbyn bron 228,500 dos o'r brechlyn, ac mae cyflenwadau wedi cynyddu dros yr wythnosau diwethaf.

'Cyhoeddi data'n cyfathrebu sicrwydd'

Mae Plaid Cymru wedi galw am "eglurder llwyr" ar y mater.

Dywedodd llefarydd ar faterion iechyd y blaid, Rhun ap Iorwerth: "Rydw i wedi galw sawl gwaith am gyhoeddi data am faint o bob math o frechlyn sydd wedi bod, ac sy'n cael eu dosbarthu i bob cenedl.

"Mae'n bwysig iawn, yn enwedig wrth gyfathrebu sicrwydd bod yna gyflenwad digonol o'r ail ddos i gael ei ddosbarthu mewn ffordd amserol."

Yn Lloegr, mae'r Ysgrifennydd Iechyd Matt Hancock wedi dweud wrth ASau na fydd gohirio i gyflenwad y brechlyn yn atal pobl rhag cael eu hail ddos na'r cynllun allan o'r cyfnod clo.

Mae cyflenwad o'r brechlyn o India wedi cael ei ohirio, yn achosi oediad i gyflenwadau'r DU, meddai Mr Hancock.

Pynciau cysylltiedig