Chwilio o'r newydd am weddillion y Nicola Faith
- Cyhoeddwyd
Mae'r chwilio wedi dechrau unwath eto i ddod o hyd i weddillion y cwch pysgoto Nicola Faith sydd wedi bod ar goll ar ôl hwylio o Gonwy ddiwedd Ionawr.
Teuluoedd y tri oedd ar fwrdd y cwch sy'n talu am y chwilio.
Cafodd cyrff tri o ddynion - sydd heb eu hadnabod yn ffurfiol - eu canfod oddi ar arfordir rhwng Cilgwri (Wirral) a Blackpool y penwythnos diwethaf.
Fe fethodd cwch y Nicola Faith â dychwelyd i harbwr Conwy ar 27 Ionawr, a daeth y chwilio am Ross Ballantine, 39, Alan Minard, 20, a Carl McGrath, 34, i ben ddeuddydd yn ddiweddarach.
Cwch archwilio o'r enw Pulsar sy'n helpu'r chwilio diweddara.
Ar ei fwrdd mae'r arbenigwr David Mearns y dyn wnaeth ddod o hyd i weddillion yr awyren oedd yn cludo'r peldroediwr Emiliano Sala.
Mae Mr Mearns wedi cynnig ei wasanaeth am ddim i deuluoedd y tri physgotwr.
Eisoes mae teuluoedd y tri wedi codi £68,000 er mwyn talu am y chwilio.
Mae archwiliad swyddogol i ddiflaniad y Nicola Faith yn cael ei gynnal gan Gangen Ymchwilio Damweiniau Morwrol - yr MAIB.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Mawrth 2021