Canfod cyrff wrth chwilio am bysgotwyr coll o'r gogledd
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu Gogledd Cymru'n dweud bod cyrff tri o ddynion wedi cael eu canfod wrth chwilio am bysgotwyr coll o'r gogledd.
Fe fethodd cwch y Nicola Faith â dychwelyd i harbwr Conwy ar 27 Ionawr, a daeth y chwilio am Ross Ballantine, 39, Alan Minard, 20, a Carl McGrath, 34, i ben ddeuddydd yn ddiweddarach.
Dywedodd yr heddlu bod y cyrff - sydd eto i gael eu hadnabod yn ffurfiol - wedi'u canfod oddi ar arfordir rhwng Cilgwri (Wirral) a Blackpool dros y penwythnos.
Mae teuluoedd criw y Nicola Faith wedi cael gwybod am y datblygiad, a bydd profion post mortem yn cael eu cynnal yn y man.
Cafwyd hyd i rafft achub y cwch oddi ar arfordir Yr Alban ddechrau Mawrth ac mae'r Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Morol (MAIB) wedi cadarnhau mai rafft y Nicola Faith a ddarganfuwyd.
Roedd disgwyl i ymgyrch chwilio preifat am y tri physgotwr i ddechrau'r wythnos hon.
Roedd £52,000 wedi'i godi gan deuluoedd y pysgotwyr coll - digon i ariannu cwch, tîm ac offer arbenigol i chwilio am y cwch.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd7 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd5 Mawrth 2021