'Camdriniaeth gan siopwyr ydy'r norm erbyn hyn'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Gweithiwr siop AldiFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae gweithiwr archfarchnad wedi dweud wrth BBC Cymru bod cwsmeriaid wedi cega arni'n ddyddiol drwy'r flwyddyn ddiwethaf dros reolau atal coronafeirws.

Dywed Tracey Davies, sy'n gweithio yng Nghastell-nedd Port Talbot, bod ymddygiad y cwsmeriaid hyn mewn ymateb i geisiadau i gadw dau fetr ar wahân yn "annerbyniol".

A hithau'n gynrychiolydd undeb y gweithwyr siop, Udsaw, mae'n dweud bod gweithwyr siop ar draws yr ardal wedi cael profiadau tebyg.

Ychwanegodd wrth siarad ar raglen Radio Wales Breakfast bod angen atgoffa cwsmeriaid "o hyd" beth yw'r rheolau.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae gofyn i bobl gadw dau fetr ar wahân wrth siopa

"Ry'n ni'n dal i gael llond ceg dim ond am ofyn 'gallwch chi gadw pellter diogel, os gwelwch yn dda', nid yn unig ohonon ni fel aelodau staff ond o aelodau'r cyhoedd hefyd," meddai.

"Mae rhai pobl yn dweud 'meindiwch eich busnes'. Mae rhai pobl jest yn rhegi. Dyna erbyn hyn ydy'r norm.

"Mae'n annerbyniol. Dylech chi ddim mynd i'r gwaith i gael eich cam-drin. Dyw e ddim yn gywir."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ardal ddillad ar gau yn siop Sainsbury's, Caerdydd cyn codi'r cyfyngiadau mewn archfarchnadoedd ddydd Llun

Cafodd archfarchnadoedd ailddechrau gwerthu nwyddau na sy'n hanfodol ddydd Llun.

Dywedodd Ms Davies bod diwrnod cyntaf y drefn newydd yn brysur eithriadol a bod ciwiau mewn siopau yn siroedd Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe.

"Yn fy ngweithle i roedden ni wedi rhagweld potensial iddi fod yn fwy prysur felly roedd gyda ni fwy o staff ar ddyletswydd. Roedd rhai llefydd heb wneud hynny.

"Roedd siopwyr yn prynu dillad yn bennaf. Mae prisiau llawer o eitemau yn is nawr, a gan eu bod yn rhatach mae pobl yn eu prynu mewn llwyth."

Pynciau cysylltiedig