Plaid Cymru: 60,000 o swyddi gwyrdd a mwy o staff i'r GIG

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Adam PriceFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

'Ry'n ni am roi dyfodol Cymru yn nwylo Cymru,' medd arweinydd Plaid Cymru, Adam Price

Mae Plaid Cymru wedi addo ehangu y rhaglen prydau ysgol am ddim yn sylweddol, a chreu 60,000 o swyddi gwyrdd newydd os ydyn nhw'n ennill etholiad y Senedd ym Mai.

Wrth lansio'r ymgyrch ddydd Gwener, dywedodd arweinydd y blaid, Adam Price, y bydd llywodraeth nesaf Cymru, oherwydd y pandemig, "yn wynebu her enfawr wrth fynd i'r afael â diweithdra, cefnogi busnesau, a chael ein hysgolion a'r gwasanaeth iechyd yn ôl ar y trywydd iawn".

Cyhoeddodd y blaid set o bolisïau "uchelgeisiol ond wedi'u prisio'n llawn" gyda "deinameg economaidd a chyfiawnder cymdeithasol yn ganolog" i'r addewidion.

'Buddsoddiad gorau allwn ni wneud'

Bydd y polisïau hynny'n cynnwys:

  • Creu 50,000 o gartrefi cymdeithasol a fforddiadwy;

  • Pecyn Ysgogiad Economaidd Gwyrdd a fydd yn creu 60,000 o swyddi;

  • Ymestyn Prydau Ysgol Am Ddim i bob plentyn ysgol gynradd;

  • Hyfforddi a recriwtio 1,000 o feddygon, 4,000 o nyrsys a 1,000 o weithwyr iechyd proffesiynol eraill;

  • Sicrhau mannau gwyrdd diogel o ansawdd da o fewn taith gerdded pum munud i bob cartref;

  • Diwygio treth y cyngor a thorri'r bil i deuluoedd.

Ffynhonnell y llun, Plaid Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae Plaid Cymru am i bob plentyn ysgol gynradd gael pryd ysgol am ddim

Dywedodd Mr Price mai ymestyn y polisi prydau ysgol am ddim oedd y "buddsoddiad gorau allwn ni ei wneud fel cenedl".

"Allwch chi ddim dysgu os 'dych chi'n llwglyd, ac ar hyn o bryd mae 70,000 o'n plant ni'n byw mewn tlodi ond ddim yn gymwys am ginio ysgol am ddim, felly mae rhaid newid hynny'n syth," meddai.

"Yn y bôn, yr unig ffordd allwch chi atal llwgu ymhlith plant yw cael polisi cyffredinol ar brydau bwyd am ddim."

Dywedodd arweinydd Plaid y byddai'r polisi'n costio £42m yn y flwyddyn gyntaf i ddarparu prydau bwyd am ddim i blant sydd â rhieni'n derbyn Credyd Cynhwysol.

Byddai hynny'n codi i £140m erbyn diwedd tymor y Senedd wrth i'r polisi gael ei ymestyn i holl blant ysgol cynradd.

Mae Llywodraeth Cymru wedi amcangyfrif y byddai'n costio £91m yn 2021 i ddarparu prydau ysgol am ddim i bob plentyn cynradd yng Nghymru.

Refferendwm ar annibyniaeth

Mae Plaid Cymru hefyd wedi addo cynnig refferendwm ar annibyniaeth i Gymru os y byddan nhw'n ffurfio'r llywodraeth nesaf ac yn cael cefnogaeth mwyafrif aelodau'r Senedd.

Dywedodd Adam Price fod "angen egni newydd a syniadau newydd arnom nawr" i wireddu hynny.

"Rhoi dyfodol Cymru yn nwylo Cymru yw'r unig ffordd i roi diwedd ar dlodi uchelgais o dan Lafur ac i rwystro bygythiad y Torïaid i dynnu Cymru oddi ar y map gwleidyddol," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Adam Price yn siarad yn lansiad ymgyrch Plaid Cymru tu allan i'w pencadlys yng Nghaerdydd ddydd Gwener

Pan ofynnwyd i Mr Price am bolau piniwn diweddar oedd yn awgrymu fod ei blaid yn parhau i fod y tu ôl i Lafur a'r Ceidwadwyr, dywedodd bod pobl yn "chwilio am rywbeth gwahanol".

"Rydyn ni wedi bod ar yr un hen lwybr ers degawdau, gyda'r un canlyniadau a dwi'n meddwl wrth ddod allan o'r pandemig fod pobl eisiau gobaith," meddai.

"Mae pobl eisiau creu Cymru newydd a dyna beth maen nhw am weld wrth galon ein rhaglen ni, cyfle i agor pennod newydd."

'Llwybr newydd'

Ychwanegodd mai'r cam cyntaf oedd "ethol llywodraeth newydd gyda syniadau newydd".

"Dydych chi ddim am gael hynny gan y Ceidwadwyr, maen nhw mewn grym yn San Steffan yn barod. Maen nhw'n rhan o'r broblem.

"Dydych chi ddim am gael hynny wrth ailethol llywodraeth Lafur sydd mewn grym ddegawd ar ôl degawd.

"Yr unig ffordd i roi'n hunain ar lwybr newydd yw gyda llywodraeth newydd â Phlaid Cymru."

Ar hyn o bryd, Plaid Cymru yw'r drydedd blaid fwyaf yn y Senedd gyda 10 sedd.

Fe enillon nhw 12 sedd yn etholiad 2016, ond fe gollon nhw ddau aelod yn ystod tymor y Senedd bresennol.

Fe gawson nhw eu canlyniadau gorau yn etholiad 1999 pan enillon nhw 17 sedd.

Bydd etholiad y Senedd yn cael ei gynnal ar 6 Mai.