Ceidwadwyr: Arian i'r GIG, addysg a rhewi'r dreth cyngor

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Andrew RT Davies

Byddai'r Ceidwadwyr Cymreig yn buddsoddi mwy o arian yn y gwasanaeth iechyd, adeiladu mwy o ffyrdd ac ariannu'r gallu i rewi'r dreth gyngor am ddwy flynedd petaent mewn grym ar ôl etholiad y Senedd ym mis Mai.

Wrth lansio eu hymgyrch ddydd Llun dywed y Ceidwadwyr Cymreig y bydd eu polisïau yn adeiladu "Cymru well".

Ddydd Sul fe wnaeth y Torïaid amlinellu nifer o bolisïau tai a fyddai'n gwneud y "freuddwyd" o fod yn berchen ar dŷ yn "realiti i deuluoedd ledled Cymru".

Y Ceidwadwyr Cymreig yw'r ail blaid fwyaf yn y Senedd ar hyn bryd - mae ganddyn nhw 11 sedd allan o 60.

Roedd eu perfformiad gorau mewn etholiadau datganoledig yn 2011 wedi iddyn nhw ennill 14 sedd.

'Dim bargeinio'

Ar drothwy cynhadledd Plaid Cymru, fe wnaeth y Ceidwadwyr ddweud na fyddan nhw yn taro unrhyw fargen gyda Phlaid Cymru ar ôl yr etholiad.

Wrth siarad ar raglen Politics Wales ddydd Sul, fe wnaeth arweinydd Seneddol y Ceidwadwyr hefyd ddiystyru taro unrhyw fargen ôl-etholiad gyda Phlaid Diddymu'r Cynulliad.

Ychwanegodd Andrew RT Davies: "Os ydych chi'n pleidleisio i'r Ceidwadwyr Cymreig, fe gewch chi Geidwadwr o Gymru ac mae hynny'n bwysig iawn, ac rydyn ni'n gwybod bod 550,000 o bobl wedi pleidleisio i'r Ceidwadwyr Cymreig yn 2019 a ni yw'r unig wrthblaid sydd mewn sefyllfa i ddweud hynny a bod mewn sefyllfa i wneud newid yma yng Nghymru."

Pan ofynnwyd iddo a fyddai ei blaid yn gweithio gyda Phlaid Diddymu'r Cynulliad yn y Senedd, atebodd Mr Davies: "Ni welaf unrhyw reswm pam ein bod am weithio gyda nhw o gwbl."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Byddai'r Ceidwadwyr Cymreig yn cyflwyno 5,000 yn fwy o athrawon

Fel rhan o'i hymgyrch ar gyfer etholiad y Senedd, mae'r blaid wedi amlinellu ei "Gwarant Geidwadol Gymreig", gan gynnwys:

  • Rhewi y dreth gyngor am y ddwy flynedd nesaf o leiaf;

  • Gweithio gyda Llywodraeth y DU i chwistrellu £2 biliwn i adeiladu Ffordd Liniaru'r M4, uwchraddio'r A55 a'r A40, a phwyntiau gwefru gwyrdd;

  • Ysbytai newydd a chyllid ychwanegol i'r GIG bob blwyddyn, gyda 3,000 yn fwy o nyrsys a 1,200 o feddygon;

  • Cyflwyno 5,000 yn fwy o athrawon a mwy o fuddsoddiad mewn addysg Gymreig.

Wrth siarad cyn lansiad yr ymgyrch, dywedodd arweinydd Senedd y Ceidwadwyr Andrew RT Davies: "Ni all pobl Cymru fforddio pum mlynedd arall o Blaid Lafur sy'n dibynnu ar gefnogaeth y cenedlaetholwyr.

"Yr un hen Lafur sydd wedi caniatáu cynnydd yn y problemau sydd yn ein gwlad dros y ddau ddegawd diwethaf a does ganddyn nhw ddim cynllun i drwsio pethau.

"Byddwn yn sicrhau y gall teuluoedd, gweithwyr a busnesau Cymru fownsio'n ôl wedi'r pandemig, drwy greu cyfleoedd newydd a sicrhau buddsoddiad yn ein seilwaith a'n gwasanaethau cyhoeddus. Mae'n neges o bositifrwydd a gobaith.

"Bydd Ceidwadwyr Cymru yn adeiladu Cymru well ac yn creu'r cyfleoedd sydd eu hangen ar Gymru, ac yn datrys yr heriau sy'n wynebu Cymru, gyda mwy o swyddi, gwell ysbytai ac ysgolion o'r radd flaenaf."

'Helpu costau byw'

Ychwanegodd y blaid y byddai'r polisi o rewi treth y cyngor am y ddwy flynedd nesaf o leiaf yn helpu pobl sydd o dan "bwysau gwirioneddol o ran costau byw ar hyn o bryd".

Yn ôl Mr Davies: "Bydd yn costio rhwng £80m a £90m [y flwyddyn] a'n rhoi tua £70 i £80 ym mhoced perchennog tŷ cyffredin.

"Bydd hynny ar gael i'w wario'n lleol i dalu eu biliau cartref fel y maen nhw'n dymuno."

Yn ymateb i gwestiwn am pam y byddai neges y blaid yn atseinio gyda chyhoedd Cymru yn yr etholiad, ymatebodd Mr Davies: "Os ydy pobl eisiau newid cyffredinol a phennod newydd ar 6 Mai mae angen iddyn nhw bleidleisio i'r Ceidwadwyr Cymreig.

"Ni yw'r unig blaid sydd wedi cael digon o bleidleisiau dros y cwpl o flynyddoedd diwethaf i ddangos bod gennym ni ddigon o bleidleisiau yn y wlad i wneud i hynny ddigwydd."