Plaid Propel am weld cyfnodau clo yn dod i ben

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Neil McEvoy
Disgrifiad o’r llun,

Mae Neil McEvoy wedi llunio "cytundeb" gyda phleidleiswyr fel rhan o ymgyrch y blaid

Fe fyddai cyfnodau clo yn dod i ben ond byddai ymbellhau cymdeithasol yn aros ym mholisïau plaid newydd Propel.

Mae'r blaid, dan arweiniad Aelod o'r Senedd Neil McEvoy, wedi dadorchuddio "cytundeb" gyda phleidleiswyr fel rhan o'i hymgyrch ar gyfer etholiad y Senedd ar 6 Mai.

"Dylai ysgolion aros yn gwbl agored a dylai campfeydd gael eu nodi yn wasanaethau hanfodol," meddai.

Mae hefyd yn addo bil hawliau, gan roi mwy o bŵer i bobl alw am refferenda a newid y system bleidleisio.

Dylai'r prif weinidog, meddai, gael ei ethol yn uniongyrchol.

Ffynhonnell y llun, Matthew Horwood
Disgrifiad o’r llun,

Mae Plaid Propel am weld cyfnodau clo yn dod i ben ond yn credu y dylai ymbellhau cymdeithasol barhau

Dywedodd Mr McEvoy: "Rwy'n falch o lofnodi fy enw ar y cytundeb gyda Chymru, fel pob ymgeisydd Propel ledled y wlad.

"Erbyn hyn mae gan Propel lwyfan polisi a all drawsnewid sut mae ein cenedl yn cael ei llywodraethu yn llwyr, tra'n creu cyfleoedd economaidd newydd enfawr.

"Byddwn mewn gwirionedd yn tyfu maint economi Cymru ac yn dod â chyfoeth newydd i'n gwlad."

Cafodd Mr McEvoy ei ethol i'r Senedd fel ymgeisydd Plaid Cymru yn 2016, ond cafodd ei ddiarddel o'r blaid yn ddiweddarach.

Yn yr etholiad diwethaf daeth yn ail i'r prif weinidog Mark Drakeford yn etholaeth Gorllewin Caerdydd, lle mae'n bwriadu sefyll eto.