Angen gwarchod hen felin Maenofferen 'cyn bod hi'n rhy hwyr'
- Cyhoeddwyd
Yn nannedd y gwynt a'r glaw yn chwarel Maenofferen uwchlaw Blaenau Ffestiniog mae'r hen felin yn sefyll.
Mae Owen Wyn Jones, sy'n 12 oed, yn cerdded i fyny yno'n aml 'efo'i dad.
"Mae fy nheulu wedi bod yn gweithio yno ers degawdau, a mae o'n le sydd 'efo lle mawr yn fy nghalon i. Mae'n lle anhygoel i sefyll ynddo fo, 'efo'r teimlad ti'n gael.
"Dwi'n cael rhyw fath o lun yn fy mhen sut fysa hi wedi bod - sut fysa fo 'di swnio, sut fysa fo 'di ogleuo. Dwi'n meddwl bod hi'n bwysig bo' ni'n neud rhywbeth 'efo fo."
Mae'r lechen yng ngwaed Owen Wyn Jones, ac mae o'n galw am warchod yr hen felin.
Felly hefyd ei dad, Dylan Wyn Jones, sy'n dweud fod yna frys i wneud hynny "cyn iddi fynd yn rhy hwyr".
"Mae'r teulu wedi bod yn gweithio yno mor bell a wyddwn i ers y 1900au, efo'n hen daid Huw Jones", meddai.
"Wedyn o'dd fy nhaid yno - Benjamin Jones, a'n nhad, Geraint Wyn Jones. Dwi'n cofio, pan o'n i oed Owen, mynd i fyny yno i weld fy nhad, a chael hwyl 'efo fo yn fanno.
"O'dd 'na adeiladau fatha'r felin o gwmpas y chwareli i gyd yn Blaenau. Maen nhw'n adfeilion erbyn hyn neu maen nhw wedi'u tynnu i lawr, a phethau mwy modern wedi'i rhoi yn eu lle nhw.
"Mae Maenofferen yn reit unigryw felly gan fod yr adeilad gwreiddiol yn dal yno - y cledrau yn dal yno, yr hen injans naddu a'r llifiau."
"O'dd 'na hen adeilad - cwt inclên - lle rodd y drwm inclên yn dod â'r wagenni i fyny o dan ddaear.
"Maen nhw wedi rhoi rhyw fath o tarpolin dros y to yna i'w arbed o.
"Mae'r felin ei hun yn dipyn o adeilad. Ond fysa'r un peth yn gallu cael ei wneud i hwnna am y tro, tra'i bod nhw'n penderfynu be' i'w wneud 'efo'r adeilad ei hun."
Mae'r elfennau wedi gadael eu hôl ar yr hen felin Fictoriaidd, ac mae yna achosion o fandaleiddio wedi bod hefyd ar hyd y blynyddoedd.
"Swn i'n hoffi gweld rhwbath ar y to i gadw'r dŵr allan, achos dwi'n meddwl ma dyna'r broblem sydd yna", medd Owen.
"Hefyd, mae angen rhyw fath o system camera i weld os oes yna bobl yn dwyn. Fedra ni neud rhywbeth amdano fo wedyn."
Mae hi'n 200 mlynedd a mwy ers y cloddio cyntaf yn Chwarel Maenofferen, ac ar ei anterth roedd dros 400 o chwarelwyr yn gweithio yno.
Bellach, cwmni Llechwedd sy'n berchen ar y safle.
Maen nhw'n hen gyfarwydd â denu ymwelwyr i'r ardal, ac er nad ydyn nhw'n fodlon datgelu rhyw lawer ar hyn o bryd, mae'n debyg eu bod nhw'n trafod cynlluniau posib ym Maenofferen.
"Peidio gadael iddo fo fynd yn waeth - dyna'r peth pwysicaf ar y funud i drio cadw fo."
Dyna mae Bryn Hughes, sy'n gweithio i gwmni Llechwedd, yn ei ddweud.
"Dwi'n gobeithio, os gawn ni fod yn rhan o'r cais world heritage yma - hwnna sy'n bwysig dwi'n meddwl. Fydd arian yn gallu dod ata ni wedyn i 'neud rhywbeth amdano fo."
Cyngor Gwynedd sy'n arwain y cais i ddynodi ardaloedd llechi'r sir yn Safle Treftadaeth y Byd.
Gyda disgwyl penderfyniad gan UNESCO yn ddiweddarach eleni, mae Cyngor Tref Ffestiniog hefyd yn aros yn eiddgar i glywed.
Mae'r is-gadeirydd, Erwyn Jones, yn digwydd bod yn frawd i Dylan ac yn ewythr i Owen.
"Dros adeg y clo, mae yna lot o bobl yn mynd am dro fyny i Maenofferen ac mae yna dipyn o drafod wedi bod ar y tudalennau cymdeithasol am ddyfodol y lle - lot yn pryderu bod y lle yn mynd a'i ben iddo.
"Mae'r gobaith yno wrth gwrs, ond wrach fod rhywun yn gorfod bod yn realistig weithiau - canfod ffynhonnell ariannol ydy pen draw bob dim."
Os daw cyfle felly, beth mae Owen a'i dad yn gobeithio'i weld ym Maenofferen?
"Rhyw fath o amgueddfa fyswn i'n licio'i weld, i bobl gael gweld pam fod y chwareli yma, a sut mae Blaenau yma mewn ffordd de", medd Owen.
Ac yn ôl Dylan: "Fydd y cais treftadaeth yn da i ddim byd, os nad oes dim ar ôl yma i bobl ei weld o'r diwydiant."
"Fysa neb yn mynd i'r Aifft, yn na fydda, tasa'r pyramids ddim yno!"
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Ionawr 2020
- Cyhoeddwyd28 Gorffennaf 2012
- Cyhoeddwyd24 Awst 2018
- Cyhoeddwyd18 Awst 2019