Enwebu ardaloedd llechi Gwynedd am Safle Treftadaeth y Byd

  • Cyhoeddwyd
Llun o'r awyr o dirwedd NantlleFfynhonnell y llun, Hawlfraint y Goron: CBHC
Disgrifiad o’r llun,

Rhoddodd lechi o chwareli fel un Dyffryn Nantlle do ar adeiladau ar hyd a lled y byd

Mae'n debygol mai ardaloedd y diwydiant llechi yng Ngwynedd fydd y pedwerydd safle yng Nghymru i'w ddynodi yn Safle Treftadaeth y Byd.

Dyma'r ardal mae Llywodraeth y DU wedi ei henwebu i'w hystyried gan y corff treftadaeth ryngwladol, UNESCO y flwyddyn nesaf.

Y gobaith ydy y bydd dynodi'r ardal - fydd yn yr un dosbarth â'r Taj Mahal yn India, y Pyramidiau yn yr Aifft a theml Ankor Watt yn Cambodia - yn denu rhagor o ymwelwyr ac yn hwb i economi'r gogledd-orllewin.

Mae yna dri safle treftadaeth y byd eisoes wedi eu dynodi yng Nghymru - Traphont Pontcysyllte, Tirwedd Ddiwydiannol Blaenafon a Chestyll Edward y Cyntaf.

Y gobaith rŵan ydy y bydd ardal y llechi yng Ngwynedd, yn cynnwys Dyffryn Ogwen, Dyffryn Nantlle a Ffestiniog, yn cael ei ddynodi hefyd.

Y chwe ardal sy'n rhan o'r cais yw:

  • Chwarel Lechi Penrhyn, tref Bethesda, a Dyffryn Ogwen i Borth Penrhyn;

  • Tirwedd Chwarel Lechi Dinorwig;

  • Tirwedd Chwareli Llechi Dyffryn Nantlle;

  • Chwareli Llechi Gorseddau a Prince of Wales, Rheilffyrdd a Melin;

  • Ffestiniog: ei Cheudyllau a Chwareli Llechi, 'prifddinas llechi' a'r rheilffordd i Borthmadog;

  • Chwarel Lechi Bryneglwys, pentref Abergynolwyn a Rheilffordd Talyllyn.

Disgrifiad,

David Davies AS yn hollti llechen yn yr Amgueddfa Lechi

Dywed David Davies, y gweinidog yn Swyddfa Cymru, y byddai'r statws yn rhoi "hwb mawr" i dwristiaeth ac yn creu swyddi.

Erbyn hyn dim ond rhyw dair chwarel sy'n cynhyrchu llechi yn fasnachol yng Ngwynedd ond ar ddiwedd y 19eg ganrif roedd y chwareli'n cynhyrchu bron i hanner miliwn o dunelli o lechi'r flwyddyn.

Bu'r hanesydd Dr David Gwyn yn cynghori'r pwyllgor a baratôdd y cais.

"Tua diwedd y 19eg ganrif roedd yna fwy na 15,000 o ddynion yn gweithio yn y diwydiant, felly doedd o ddim yn ddiwydiant mawr o gymharu â phyllau glo'r Sowth," meddai.

"Oedd yna chwarter miliwn o lowyr erbyn yr 20fed ganrif, ond y dylanwad mae o wedi ei gael ar yr ardal wledig sy'n bwysig a hefyd wrth gwrs mae'r dylanwad mae o wedi'i gael ar bensaernïaeth dros y byd yn bwysig."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Pontcysyllte yn un o dri safle UNESCO yng Nghymru ar hyn o bryd

Sefydlwyd pwyllgor i ddechrau ar y gwaith o baratoi'r cais i ddynodi'r ardal 10 mlynedd yn ôl, ac ers chwe blynedd yr Arglwydd Dafydd Wigley fu'n cadeirio'r pwyllgor.

"Mae yna flynyddoedd wedi mynd i mewn [i baratoi'r cais], yn rhannol wrth gwrs oherwydd bod rhaid sicrhau cefnogaeth y cymunedau i gyd a'r tirfeddianwyr fel bod pawb yn tynnu hefo'n gilydd," meddai.

"Yn ail roedd rhaid i ni gymryd ein lle yn y ciw, roedd yna rai ceisiadau o'n blaen ni, a bellach rydan ni wedi cael cefnogaeth y llywodraeth yn Llundain ac mi fydd ein cais ni yn mynd gerbron y flwyddyn nesaf."

Gobaith Cyngor Gwynedd, a luniodd y cais, ydy y bydd dynodi'r ardal yn dod â budd i fusnesau lleol.

Yn ôl y Cynghorydd Gareth Thomas, sy'n arwain ar faterion economaidd ar gabinet y cyngor: "Y gwerth rydan ni'n edrych arno ydy cael ymwelwyr y tu allan i'r tymor arferol... felly rydan ni'n gobeithio ehangu'r tymor a chael mwy o wariant gan ymwelwyr sy'n dod i'r math yma o safle."

Mae disgwyl i UNESCO gyhoeddi eu penderfyniad y flwyddyn nesaf.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol