Anaf difrifol i weithiwr ar safle tanio byw Pentywyn

  • Cyhoeddwyd
A sign of the Ministry of Defence's Pendine rangeFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd contractwr ei anafu ar faes saethu byw ym Mhentywyn ddydd Iau

Mae ymchwiliad yn cael ei gynnal yn dilyn 'damwain ddifrifol' ar faes saethu byw yn Sir Gaerfyrddin.

Cafodd contractwr ei anafu yn y digwyddiad yng nghyfleuster y Weinyddiaeth Amddiffyn ym Mhentywyn ddydd Iau.

Mae Heddlu Dyfed Powys a'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch yn cynnal ymholiadau.

Mae'r BBC yn deall fod y contractwr wedi cael ei gludo mewn hofrennydd i'r ysbyty.

Dywedodd y cwmni amddiffyn a thechnoleg QinetiQ, sy'n rhedeg y safle ar ran y Weinyddiaeth Amddiffyn, ei fod hefyd yn cynnal ymchwiliad mewnol.

Dywedodd llefarydd ar ran QinetiQ fod y "digwyddiad difrifol" wedi digwydd tua 11am ddydd Iau.

"Yn anffodus, arweiniodd y digwyddiad hwn at anaf i aelod o bersonél QinetiQ. Rydym yn cydweithredu'n llawn â'r gwasanaethau brys ac mae ymchwiliad llawn ar y gweill".

"Mae'n rhy gynnar i wneud sylwadau pellach ar hyn o bryd, ond bydd gwybodaeth ychwanegol ar gael maes o law unwaith y bydd yr holl ymchwiliadau wedi'u cwblhau".

Mae'r tir sy'n cael ei ddefnyddio gan y Weinyddiaeth Amddiffyn ar arfordir Sir Gaerfyrddin yn ymestyn ar draws 5065 erw, ac mae'n cael ei ddefnyddio yn bennaf ar gyfer profi, gwerthuso a hyfforddi gyda drylliau ac arfau eraill.

Mae rhybuddion a gyhoeddwyd gan QinetiQ ar ei wefan yn dangos bod y cyfleuster yn cynnal gweithgareddau gyda "drylliau a ffrwydradau lleol" ddydd Iau.

Mae aelodau o'r lluoedd arfog yn defnyddio'r safle ochr yn ochr â pheirianwyr a gwyddonwyr a gyflogir gan QinetiQ.

Mae hefyd yn gartref i ganolfan brawf Ewropeaidd NATO ar gyfer bwledi arfau bach.