Y Gynghrair Genedlaethol: Wrecsam 3 - 0 Bromley

  • Cyhoeddwyd
Cae Ras Wrecsam

Cafodd Wrecsam hwb i'w gobeithion am ddyrchafiad gyda buddugoliaeth gyfforddus dros Bromley ar y Cae Ras.

Roedd y Dreigiau 2-0 ar y blaen ar yr egwyl diolch i goliau gan Kwame Thomas a Dior Angus.

Cafodd Angus ei ail ar ôl yr egwyl, a thrydydd gôl i Wrecsam, gan sicrhau pwyntiau llawn i'r tîm cartref.

Mae'r Dreigiau yn bumed yn y tabl, felly, tra bod Bromley wedi gollwng i'r nawfed safle.

Pynciau cysylltiedig