Pro-14: Dreigiau 24-17 Caeredin

  • Cyhoeddwyd
Matthew Screech dathluFfynhonnell y llun, Huw Evans Agency
Disgrifiad o’r llun,

Matthew Screech yn dathlu ei ail gais yn yr hanner cyntaf i'r Dreigiau

Mae'r Dreigiau wedi methu yn eu hymgais i sicrhau lle yng Nghwpan Pencampwyr Heineken y tymor nesaf er iddyn nhw drechu Caeredin 24-17 yn eu gêm Pro14 olaf.

Roedd angen sgôr fuddugol arnyn nhw o 45 pwynt yn fwy na Chaeredin i basio Glasgow yn y pedwerydd safle yng Nghynhadledd A.

Fe wnaeth dau gais gan Matthew Screech ac un gan Jonah Holmes gadw gobeithion y tîm cartref yn fyw, gyda'r sgôr ar yr hanner yn 24-5.

Ond fe groesodd Charlie Shiel a Blair Kinghorn dros Gaeredin i ychwanegu at sgôr hanner cyntaf Mesu Kunavula.

Gorffennodd yr ymwelwyr yr ail hanner gan bwyso'n gryf, ond fe fethon nhw yn eu hymdrech i sicrhau gêm gyfartal, gyda'r Dreigiau'n sicrhau'r tri phwynt llawn.

Y penwythnos nesaf bydd y Dreigiau yn wynebu Northampton Saints yn rownd yr wyth olaf yng Nghwpan Her Ewrop.

Pynciau cysylltiedig